Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Osian Wyn Owen yw Prifardd ei heisteddfod eleni.
Yntau oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mrycheiniog a Maesyfed yn 2018, a daeth yn drydydd am wobr y Prif Lenor ddoe.
“Safai cerdd ‘Clustog’ am ‘Y Beic’ mas o’r darlleniad cyntaf,” meddai’r beirniad, y prifardd Aneirin Karadog, am waith Osian Wyn Owen.
“[A hynny] nid yn unig am ei fod yn destun gwahanol i weddill y cerddi ond hefyd am fod yma lais aeddfed a chrefftus oedd yn canu o’r galon ac yn llwyddo i gyffwrdd a’m calon i.
“Mewn cystadleuaeth uchel ei niferoedd a’i safon, mae ‘Clustog’ yn haeddu pob clod a ddaw gyda’r wobr.”
Yn ail roedd Cristyn Rhydderch Davies o Gaerdydd ac yn drydydd roedd Lois Campbell o Gelli Aur, Caerfyrddin.
Yr enillydd
Yn wreiddiol o’r Felinheli, mae Osian Wyn Owen bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda’i ffrind a chyd-fardd Caryl Bryn.
Dylai fod yn graddio gyda gradd MA o Brifysgol Bangor fis Mehefin ond oherwydd yr amgylchiadau, gohiriwyd hyn.
Eisteddfod T
Oherwydd yr argyfwng Covid-19, mae eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei chynnal ar-lein dan yr enw Eisteddfod T.