Mae’r Ceidwadwr Andrew RT Davies wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu i bobol yrru am fwy na phum milltir er mwyn gweld teulu a ffrindiau.

Heddiw (dydd Gwener 29 Mai), bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi sut fyddan nhw’n llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru.

Disgwylir y bydd angen i bobl aros yn eu hardal leol a chadw dau fetr oddi wrth ei gilydd.

Wrth sôn am broblemau posib, megis y diffiniad o’r hyn a olygir gan “lleol”, dywedodd Mark Drakeford wrth Radio Wales y bore yma:

“Mae’n anochel, yn anffodus, wrth ddechrau codi’r cyfyngiadau, y bydd peth annhegwch yn y system.

“Yn ein canllawiau, byddwn yn dweud wrth bobl mai’r hyn a olygir gan ‘lleol’ yw radiws o bum milltir o’ch cartref, ond gall pobol, bydd rhaid iddynt, ddehongli hynny [ychydig yn wahanol] yn lleol oherwydd yng nghefn gwlad efallai nad oes ganddoch chi fferyllydd neu [siop] fwyd o fewn 5 milltir, felly bydd angen mynd ychydig yn bellach.”

“Effaith annheg”

Ond dywed Andrew RT Davies nad yw hyn yn deg ar bobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

“Nid pawb yng Nghymru sy’n byw mewn tref neu ddinas yn agos i’w teulu a ffrindiau a bydd hyn yn cael effaith annheg ar y sawl sy’n byw mewn cymunedau gwledig,” meddai.

Ac mewn llythyr at y Prif Weinidog ddoe (Mai 28), galwodd Andrew RT Davies arno i ddarparu tystiolaeth wyddonol sy’n cyfiawnhau’r rheol.

“Alla i ofyn yn gwrtais eich bod yn diwygio’r rheol hwn er mwyn sicrhau fod pobol ar draws Cymru yn gallu gweld eu teulu a’i ffrindiau o wythnos nesaf ymlaen heb gyfyngiad o’r fath ar deithio?

“Os nad ydych am wneud hyd, rwyf yn credu y dylech rannu’r dystiolaeth wyddonol mae’r penderfyniad hwn wedi ei seilio arno i’r cyhoedd yng nghynhadledd i’r wasg yfory.”

“Polisi creulon a mympwyol sy’n cosbi’r Gymru wledig”

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar bolisi ôl-Covid wedi galw’r polisi yn “greulon a mympwyol”.

“Mae cyhoeddiad heddiw yn gyfle wedi ei golli i deuluoedd, ffrindiau a busnesau yng Nghymru,” meddai Darren Miller.

“Mae’r polisi hwn yn greulon a mympwyol, yn dweud wrth nifer o deuluoedd nad ydyn nhw’n cael cyfarfod…

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn ddatrysiad dinesig gan Lywodraeth Lafur sydd ddim ond yn poeni am fywyd trefol neu ddinesig.

“Unwaith eto, mae gormod o bobol wedi cael eu gadael heb obaith heddiw.”

Galw ar bobol i ddefnyddio synnwyr cyffredin

Mewn cyfweliad gyda Radio Wales, galwodd Mark Drakeford ar bobol i “ddefnyddio synnwyr cyffredin a bod yn gyfrifol. Ni ddylai pobl wneud pethau sy’n risgio torri’r rheolau caeth.

“Mae’n gam mawr caniatáu pobl i fod wyneb yn wyneb eto, a dw i’n gwybod y bydd pobl Cymru’n deall bod angen gwneud hynny mewn ffordd ofalus a rheoledig.

“Rhaid i hyn fod y tu allan – mae’r feirws yn llawer llai peryglus i bobl  mewn awyr iach ac yng ngolau’r haul.”