Yfory (dydd Gwener 29 Mai), bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi a fyddan nhw’n llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru.

Mae BBC Cymru Wales yn adrodd bod Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn debygol o gyhoeddi y caiff y cyfyngiadau eu llacio’r wythnos nesaf i ganiatáu i bobl o ddwy aelwyd wahanol allu cwrdd â’i gilydd yn yr awyr agored. Bydd y cyfyngiadau’n dod i rym ddydd Llun.

Fodd bynnag, disgwylir y bydd angen iddynt aros yn eu hardal leol ac aros dau fetr oddi wrth ei gilydd.

‘Camau graddol sydd orau’

Ac mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall wedi dweud y dylid parhau â’r “ymateb gofalus” i’r coronafeirws.

Yn siarad â’r wasg y prynhawn ’ma (dydd Iau 29 Mai), awgrymodd Dr Goodall mai camau graddol sydd orau. Hefyd, roedd ganddo bethau cadarnhaol i’w dweud am effaith y cyfyngiadau sydd ar waith.

“Dw i’n credu bod y pythefnos, tair wythnos, ddiwethaf wedi bod yn bwysig iawn,” meddai.

“[Dros y cyfnod yma] mae lledaeniad o fewn y gymuned wedi lleihau, ac mae nifer y cleifion yn ein gwelyau gofal a gwelyau ysbytai wedi disgyn.”

Mae traean o welyau aciwt ysbytai Cymru (tua 2,200 i gyd) yn wag, ac mae bron i ddwy ran o dair o welyau gofal critigol yn wag.

Mae 44 claf yn derbyn triniaeth gritigol ar hyn o bryd – y ffigur isaf ers Mawrth 27.

“Normalrwydd” yn dod yn ôl?

Ar un adeg yn y gynhadledd, dywedodd y pennaeth meddygol bod “gweithgarwch GIG normal yn dychwelyd”. Ond dywedodd yn ddiweddarach “nad ydym mewn sefyllfa normal ar hyn o bryd”.

Mae nifer y bobol sy’n ymweld ag unedau brys yn cynyddu, meddai, ond maen nhw’n parhau yn is nag y dylen nhw fod.

Ategodd Dr Goodall ei neges flaenorol fod swyddogion iechyd yn pryderu bod gormod o bobol yn cadw draw o wasanaethau brys – o bosib, am eu bod yn ofni dal coronafeirws, neu’n ofni ychwanegu at waith meddygon.

System olrhain

Mae systemau olrhain cysylltiadau coronafeirws bellach wedi’u lansio yn Lloegr a’r Alban – ni fydd system gyffelyb yn cael ei lansio yng Nghymru tan Fehefin 1.

Cododd sawl cwestiwn yn y gynhadledd am yr oedi yng Nghymru, ond doedd dim ateb clir gan y prif swyddog. Er hynny, dywedodd bod popeth “yn ei le” i lansio dydd Llun nesa’.

Eglurodd bod 600 o bobol ar gael i gyfrannu at y gwaith, ac y bydd hynny’n codi i 1,000 os bydd rhaid.

Bydd y system olrhain yn dod o hyd i’r rheiny sydd wedi bod yng nghwmni’r heintiedig, ac yn hysbysu’r bobol hynny er mwyn iddynt hunanynysu