Mae Bwrdd Iechyd y gogledd wedi stopio darparu gwasanaethau cefnogol i bron i 1,700 o gleifion iechyd meddwl – a hynny’n groes i gyfarwyddyd y Llywodraeth.

Wrth siarad gerbron un o bwyllgorau’r Senedd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd pennaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mai dim ond 200 i 300 oedd wedi’u heffeithio.

Ond bellach mae Plaid Cymru wedi datgelu nad oedd amcan ffigwr Simon Dean, Prif Weithredwr dros dro’r Bwrdd Iechyd, yn gywir.

Mewn llythyr at yr Aelod o’r Senedd, Rhun ap Iorwerth, mae’r bwrdd wedi cadarnhau mai 1,694 o gleifion iechyd meddwl gofal cychwynnol yw’r ffigwr cywir.

Beirniadu’r cam

“Byddai stopio darparu gwasanaethau i un claf, wel, byddai hynny’n ormod,” meddai llefarydd iechyd Plaid Cymru.

“Ond mae darganfod bod hyn wedi digwydd i 1,694 – tra’r oedden nhw o hyd angen cefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl – yn poeni dyn.”

Mae’n debyg bod y bwrdd wedi ymrwymo i gysylltu â’r cleifion i asesu eu sefyllfaoedd, ond mae Rhun ap Iorwerth wedi cwestiynu sut allai’r cam fod wedi ei gymryd yn y lle cyntaf.

“Hanfodol”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol yn ystod y pandemig. Er y gallai’r ffordd y cânt eu darparu newid oherwydd y cyfyngiadau presennol, rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gynnal gwasanaethau.

“Rydym yn ymwybodol o ohebiaeth sy’n rhyddhau cleifion o wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol yng Ngogledd Cymru yn ystod y pandemig. Er iddynt gael manylion am gysylltu â’r gwasanaethau argyfwng, nid yw hyn yn cyd-fynd â’n canllawiau. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ein sicrhau y bydd y gwasanaeth lleol yn cysylltu â’r holl gleifion yr effeithir arnynt.”

“Adolygu’r gefnogaeth”

Dywedodd Simon Dean, o’r Bwrdd Iechyd: “Hoffwn sicrhau pobl bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Gofal Cychwynnol yn derbyn cyfeiriadau fel arfer.

“Byddwn hefyd yn cysylltu â’r holl gleifion sydd wedi eu rhyddhau’n ddiweddar i adolygu’r gefnogaeth y mae arnynt ei hangen. Hoffwn ddweud ei bod yn ddrwg iawn gennyf am unrhyw ofid sydd wedi ei achosi.”

 

Y bwrdd a’r feirws

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod dan ‘fesurau arbennig’ – mesurau i sicrhau bod ysbyty yn cynnig gwasanaeth digonol – ers pum mlynedd bellach.

Fis diwethaf daeth i’r amlwg fod y bwrdd wedi oedi wrth gyhoeddi ffigurau marwolaethau coronafeirws.