Heddiw (dydd Mercher, Mai 27)  cyhoeddwyd mai Nest Jenkins yw Prif Ddramodydd Eisteddfod T, sef Eisteddfod yr Urdd ar-lein.

Datgelwyd mai Nest oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda’r beirniad, Hanna Jarman, a’r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno ar sgriniau o’u cartrefi.

Roedd Hanna Jarman wedi mwynhau’r elfen o fenyw gryf oedd yn y gwaith buddugol.

“Dwi’n ffan mawr o gymeriadau benywaidd ‘anhoffus’, menywod sy’n herio sut ma’ menyw fod i fihafio, siarad a theimlo.

Roedd y darn yn soffistigedig iawn. Cymeriad cryf a doniol.”

Nest

Daw Nest yn wreiddiol o Ledrod ger Tregaron, ond bellach mae hi ar ei thrydedd blwyddyn yn astudio’r Gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ei gobaith yn y dyfodol yw mentro i fyd darlledu, gan ddilyn cwrs ôl-radd mewn Newyddiaduraeth Darlledu y flwyddyn nesaf.

Mae Nest yn unigolyn prysur a gweithgar. Bu’n gyflwynydd radio ar Xpress Radio, gan gyd-gyflwyno dwy sioe lwyddiannus ar yr orsaf a chafodd un ei chynnwys ar Radio Cymru am gyfnod.

Bu hefyd yn Llywydd y Gym Gym, sef Cymdeithas Gymraeg y brifysgol.

Gyda’i thrydedd blwyddyn wedi’i thorri’n fyr o achos y pandemig, mae Nest a’i ffrind, Jacob, wedi dechrau podlediad newydd o’r enw ‘Cracio’r Corona’.

Mae’n un sy’n mwynhau eisteddfota ac wedi dod i’r brig yn genedlaethol am ganu’r delyn, piano a llefaru sawl tro. Mae’n aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal ac wedi bod yn hyfforddi’r parti llefaru ers dwy flynedd.

Y tri ddaeth i’r brig

Mae Nest  yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin.

Yn ail mae Delyth Evans o Silian ger Llanbedr Pont Steffan ac yn drydydd mae Sion Wyn Evans o Felinfach, ger Llanbedr Pont Steffan.