Mae Sioe Awyr y Rhyl wedi cael ei gohirio oherwydd y coronafirws.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych a Hamdden Sir Ddinbych fod y penderfyniad wedi’i wneud i “sicrhau diogelwch y cyhoedd”.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley ei fod yn “siom” gan fod y sioe, sydd i’w chynnal ym mis Awst, wedi cyfrannu “cymaint i economi ymwelwyr y Rhyl “.

Dywedodd fod yr awdurdod wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau i sicrhau bod y dref yn “codi o’r argyfwng hwn gyda chynnig twristiaeth cryf a bywiog yn 2021”.

“Mae ein penderfyniad wedi cael ei wneud yng ngoleuni’r heriau sy’n cael eu cyflwyno gan Covid-19, a’r disgwyliad parhaus o fesurau ymbellhau cymdeithasol,”  ychwanegodd.

“Yn anffodus, teimlwn na fyddem yn gallu gwarantu diogelwch staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr sy’n mynd i ddigwyddiad mor fawr, nac yn dymuno rhoi straen ychwanegol ar y gwasanaethau brys ar adeg mor anodd. ”

Roedd disgwyl i’r Sioe Awyr gael ei chynnal am yr unfed tro ar ddeg eleni ar Ŵyl y Banc ym mis Awst.