Rosina Catrin Jones, disgybl 18 oed yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, yw Prif Ddysgwr Eisteddfod T.

Cafodd enw’r enillydd ei gyhoeddi ar S4C a Radio Cymru yn yr eisteddfod ddigidol gyntaf erioed y prynhawn yma (dydd Mawrth, Mai 26).

Fe wnaeth y beirniad Nia Parry a’r tri chystadleuydd terfynol ymuno yn y seremoni ar sgriniau o’u cartrefi.

Mae Rosie yn ymddiddori mewn ieithoedd ac yn ymarfer ei Chymraeg gyda’i thad-cu sy’n deall ychydig bach o Gymraeg, a gyda’i ffrindiau ar-lein.

Mae’n gobeithio dod yn athrawes ieithoedd tramor mewn ysgol Gymraeg yn y dyfodol.

“Hoffwn i astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym mhrifysgol Bryste ond nawr dw i eisiau cymryd blwyddyn i ffwrdd llawn o ieithoedd, ysgrifennu, canu’r piano a gitâr, ioga a dringo os dw i’n gallu!” meddai.

Mae Rosie hefyd yn rhan o grŵp sy’n helpu’r gymuned yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Y feirniadaeth

Yn ei beirniadaeth, cyfaddefodd Nia Parry i gais Rosie ei gwneud yn emosiynol iawn.

“Wrth wylio fideo Rosie, mi wnes i golli deigryn,” meddai.

“Mi wnaeth ei neges gyffwrdd fy nghalon.

“Roeddwn yn gallu uniaethu gyda’r hyn roedd hi’n ei ddweud am “eiriau yn ei hudo”.

“Mae hi’n ein hannog i ddefnyddio ‘geiriau’ i gofnodi a rannu ein teimladau yn y cyfnod yma – i ddweud wrth bobol ein bod ni’n eu caru nhw ac i ddiolch i bobol.

“Mae gweld person ifanc fel Rosie yn dysgu’r iaith i’r fath safon a’i chlywed yn sôn am fel mae hi’n caru’r Gymraeg a’n hanes a’n diwylliant ni wedi rhoi gobaith a phleser i mi.”

Mae Rosie yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin.

Yn ail mae Luke Parfitt ac yn drydydd mae Niomie Griffiths,  y ddau o Ysgol Gyfun Aberpennar.

Eisteddfod T

Mae Eisteddod T yn cael ei chynnal gydol yr wythnos hon, Mai 26-29.

Hyd yn hyn, mae 4,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 80 o gystadlaethau, gyda mwy o gystadlaethau byrfyfyr yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos.

Mae modd ymuno yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda’r hashnod #EisteddfodT.