Robbie Savage
Mae’r BBC wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cannoedd o gwynion am berfformiad Robbie Savage ar Strictly Come Dancing nos Sadwrn.

Mae’n debyg bod y cwynion yn ymwneud a symudiadau pryfoclyd cyn-chwaraewr pêl-droed Cymru yn ystod ei berfformiad.

Yn y rhaglen nos Sadwrn, oedd yn dathlu Calan Gaeaf, roedd Robbie Savage, 37 oed, a’i bartner wedi dawnsio i’r gan “Bad” gan Michael Jackson – gan gyfuno rhai o symudiadau enwocaf y canwr i’w berfformiad.

Yn ystod y perfformiad, cafodd y gynulleidfa olwg ar Robbie Savage yn neidio i ben bwrdd y beirniaid a hyrddio’i gluniau i wyneb Craig Revel Horwood.

Ond mae rhieni wedi cwyno bod y perfformiad – oedd yn cael ei ddarlledu cyn 9pm – wedi mynd yn rhy bell, gyda nifer yn dweud bod ei berfformiad yn anaddas i gynulleidfa deuluol.

Mae’r BBC bellach wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn 267 o gwynion ynglyn â pherfformiad paso doble y cyn-chwaraewr pêl-droed.

Mae Robbie Savage wedi llwyddo i gyrraedd y 10 olaf yn Strictly Come Dancing, ynghyd â’r Gymraes Alex Jones a Russell Grant sy’n byw ym Maentwrog.


Dawns ddadleuol Savage nos Sadwrn.