Mae Vaughan Gething yn dweud y byddai ei swydd fel Ysgrifennydd Iechyd Cymru wedi bod yn “anghynaladwy” pe bai e yn sefyllfa Dominic Cummings.

Fe wnaeth y sylwadau yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru, drannoeth datganiad prif ymgynghorydd Boris Johnson ar ôl iddo deithio 260 o filltiroedd o Lundain i Durham, yn groes i gyfyngiadau’r coronafeirws.

Tynged y wlad, ac nid tynged Dominic Cummings, sydd yn poeni Gweinidog Iechyd Cymru, meddai.

Dywed Vaughan Gething nad tynged Dominic Cummings yw ei flaenoriaeth e, ond yn hytrach fod pobol Prydain yn dilyn y rheolau.

“Gallaf ddweud, pe bawn i wedi gyrru i ochr arall y wlad i weld aelod o’r teulu pan o’n i’n meddwl y gall fod fy ngwraig wedi’i heintio, o bosib, â Covid-19, yna fe fyddai hynny’n amlwg iawn yn torri’r rheolau oedd yn eu lle ar y pryd, a byddai fy swydd fel gweinidog wedi bod yn anghynaladwy,” meddai.

“Nid mater i fi yw gwneud penderfyniadau am Uwch Ymgynghorydd Arbennig y prif weinidog.

“Nid Dominic Cummings a’i dynged sy’n bwysig i fi ond yn hytrach, fod pobol ar draws y pedair gwlad, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn mynd i barhau i ddilyn y rheolau i’n cadw ni i gyd yn ddiogel.

“Ac fy mhryder, mewn gwirionedd, yw colli ymddiriedaeth y cyhoedd sy’n deillio o’r syrcas sydd wedi newid yn gyson dros y dyddiau diwethaf.

“Dyna sydd wir yn fy mhoeni i, sef eglurder y rheolau a’r disgwyliadau a dealltwriaeth wirioneddol fod y rheolau yno i bawb ohonom, i fi a fy nheulu, gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio i’r prif weinidog hefyd a dyna’r rheswm am y pryder rydyn ni wedi’i weld, dw i’n meddwl, a byddwn yn hoffi pe baen ni’n gallu symud ymlaen o’r stori benodol hon a chanolbwyntio ar gadw Cymru’n ddiogel, sut fyddwn ni’n cydweithio â thair gwlad arall y Deyrnas Unedig i wneud hynny a sut fyddwn ni’n gallu symud allan o’r gwarchae cyn gynted â phosib ac mewn modd mor ddiogel â phosib.”

Radio Wales

Yng ngoleuni sgandal Dominic Cummings, ymddangosodd Vaughan Gething ar raglen BBC Radio Wales y bore yma hefyd yn honni y byddai wedi ymddiswyddo o dan y fath amgylchiadau.

“Dywedwch fod fy mam yn byw yn Abermaw ac roeddwn i wedi gyrru o’r tu allan i Gaerdydd i Abermaw, oherwydd fy mod i’n poeni am fy mab, ac wedi aros wrth ymyl ei thŷ i wneud hynny.

“Dydw i ddim yn meddwl y bydden i wedi para hyd ddiwedd y dydd ar ôl i’r stori honno dorri.”

Ymddiswyddodd yr Is Weinidog Ceidwadol Douglas Ross heddiw, Mai 26 gan ddweud nad oedd barn Dominic Cummings am ganllawiau’r Llywodraeth wedi’i “rhannu gan y mwyafrif llethol o bobl”.

Dywedodd Vaughan Gething y byddai yntau wedi ymddiswyddo hefyd.

“Rwy’n credu y bydden i wedi gorfod, neu byddai’r Prif Weinidog wedi dweud wrtha i fod fy amser ar ben, oherwydd rwy’n meddwl fel Gweinidog, dydw i ddim yn gweld sut y gallwn i fod wedi aros yn y swydd.”

Cydymdeimlo

Ond dywedodd y Gweinidog ar raglen BBC Wales ei fod yn cydymdeimlo â Dominic Cummings  “ar lefel ddynol”.

“Yn union fel y mae gen i gydymdeimlad gwirioneddol â llawer o deuluoedd eraill sydd wedi gwneud dewisiadau anodd i ddilyn y rheolau, a dyna’r broblem yn y fan hon, ynde?”

Adolygu cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru yr wythnos hon

Yn y cyfamser, dywed Vaughan Gething y bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu cyfyngiadau’r coronafeirws yn ddiweddarach yr wythnos hon.

“Yr wythnos hon, bydd rhaid i ni wneud set arall o ddewisiadau ynghylch y rheoliadau sydd yn eu lle a sut olwg fydd ar y set nesaf o reoliadau,” meddai.

“Siaradodd y prif weinidog yr wythnos ddiwethaf am ddeall y torcalon mae hyn yn ei achosi i rai pobol sy’n methu gweld aelodau’r teulu a hoffem feddwl am sut y gallwn ni wneud rhywbeth am hynny.

“Dw i’n credu mai’r dull gofalus yw’r un cywir o hyd, ac mae’n cael ei gefnogi’n helaeth gan aelodau’r cyhoedd.

“Rydym wedi gweld, yr wythnos hon, luniau o’r traethau yn Lloegr oedd dan eu sang a lluniau’r traethau yng Nghymru lle mae pobol yn dilyn y rheolau ac yn deall pwysigrwydd gwneud hynny er mwy cadw pawb ohonom yn ddiogel yng Nghymru.”