Y Cymry yw’r rhai lleiaf tebygol o blith trigolion gwledydd Prydain o ymweld â pharc, a’r rhai mwyaf tebygol o fod â mynediad i ardd breifat, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.

Maen nhw’n cyhoeddi ymchwil bob wythnos ar effaith y pandemig ar bobol mewn gwahanol ardaloedd yng ngwledydd Prydain.

Trigolion Llundain oedd y rhai mwyaf tebygol o ymweld â pharc, a’r rhai lleiaf tebygol o fod â mynediad i ardd breifat.

Mae’r holl ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi’n cyfeirio at effaith y feirws ar bobol ym mis Ebrill.

Ystadegau eraill

Mae 80% o drigolion gwledydd Prydain yn poeni am effaith y feirws ar eu bywydau, gyda phobol yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn poeni fwyaf (87%) – a phobol rhwng 16 a 34 oed fu’n poeni fwyaf (94%).

Fe fu 76% o bobol yn nwyrain canolbarth Lloegr a’r Alban yn poeni am yr un rheswm.

Roedd mwy o bobol yn Llundain nag yn unman arall yn gweithio o adref fis diwethaf (60%), ond y rheiny yn nwyrain a dwyrain canolbarth Lloegr oedd y rhai lleif tebygol o weithio o adref.

A thrigolion Llundain hefyd oedd y rhai lleiaf ymwybodol o ganllawiau Llywodraeth Prydain oedd yn cynghori pobol i aros gartref, tra mai pobol yng ngorllewin canolbarth Lloegr oedd y rhai mwyaf ymwybodol.

Pobol sy’n byw yn ne-orllewin Lloegr oedd fwyaf tebygol o gadw llygad ar eu cymdogion o leiaf unwaith yn ystod y mis (64%), ond dim ond 48% o drigolion Llundain oedd yn debygol o wneud hynny.

Roedd 49% o Albanwyr a 52% o drigolion gogledd-ddwyrain Lloegr yn teimlo y byddai eu sefyllfa ariannol yn aros yn gyson yn y flwyddyn i ddod yn sgil y feirws.

Ond roedd trigolion Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn llai gobeithiol, gyda 48% yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i’w sefyllfa waethygu.

Ymateb

“Dyma’r tro cyntaf i ni ddadansoddi gwahaniaethau cenedlaethol a rhanbarthol yn ein hymchwil rheolaidd i sut mae’r pandemig coronafeirws yn effeithio ar fywydau pobol,” meddai James Harris o’r Swyddfa Ystadegau.

“Mae lefelau pryder a gofid yn uchel ym mhob gwlad a rhanbarth, gyda nifer ohonom yn cadw cysylltiad â theuluoedd a ffrindiau, ond rydym hefyd yn gweld gwahaniaethau yn y ffordd mae’r gwarchae wedi effeithio pobol ledled Prydain.

“Roedd pobol yn Llundain yn fwy tebygol o weithio o adref, gyda’r rheiny yn y dwyrain a dwyrain canolbarth Lloegr y lleiaf tebygol, er enghraifft.

“Roedd y rheiny yn yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr yn fwy optimistaidd am gyllid cartref.

“Pobol yn ne-orllewin Lloegr sydd wedi bod fwyaf tebygol o alw gyda’u cymdogion.

“Rydym hefyd wedi darganfod fod pobol yng Nghymru’n dueddol o fod â mynediad i ardd, yn wahanol i Lundeinwyr, oedd yn fwy tebygol o ddefnyddio parciau cyhoeddus.”