Mae Philip Pullman yn dweud bod amddiffyniad Boris Johnson o’i brif ymgynghorydd Dominic Cummings yn “anfaddeuol”.

Mae’r awdur, a gafodd ei fagu yn Llanbedr, wedi cymharu’r amddiffyniad â sylwadau Jacob Rees-Mogg am ddioddefwyr tân Tŵr Grenfell.

Dywedodd prif weinidog Prydain fod Dominic Cummings “wedi defnyddio greddf tad” wrth yrru 260 o filltiroedd o Lundain i Durham wrth iddo fe a’i wraig gael eu taro’n wael â’r coronafeirws er mwyn sicrhau bod aelodau’r teulu’n gallu gofalu am eu mab.

Fe ddaeth yr amddiffyniad wrth i Dominic Cummings wynebu’r wasg mewn cynhadledd yng ngerddi Downing Street neithiwr (nos Lun, Mai 25).

Barn Philip Pullman

Yn dilyn yr helynt, mae Philip Pullman wedi troi at Twitter i leisio’i farn am y sefyllfa.

“Mae amddiffyniad Johnson o Cummings yr un fath â sylwadau atgas Rees-Mogg am ddioddefwyr Grenfell,” meddai.

“Os oedd pobol yn ufuddhau i’r rheolau, roedden nhw’n dwp.

“Dyma ragoriaeth y ‘spiv’, ac mae’n gwbl anfaddeuol.”