Brigyn
Mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wedi dweud wrth Golwg360 heddiw eu bod yn ymwybodol o’r datblygiad diweddar “annerbyniol”  mewn taliadau ar gyfer caneuon ar Radio Wales o’i gymharu â Radio Cymru.

Mae’r sefydliad wedi dweud wrth Golwg360 bod “trafodaethau ar y gweill rhwng elfennau o’r Cynulliad Cenedlaethol a’r corff trwyddedu Prydeinig (PRS) er mwyn gweddnewid y sefyllfa”.

Daw hyn wedi i’r canwr Gai Toms dynnu sylw at ffigyrau sydd wedi dod i’w sylw sy’n amlygu’r gwahaniaeth mewn taliadau am ganeuon 3 munud ar Radio Cymru o’i gymharu â Radio Wales. Yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law Gai Toms, mae’n costio £5.75 i chwarae cân 3 munud ar Radio Cymru, a £147.85 i chwarae cân 3 munud ar Radio Wales.

Mae Gai Toms wedi postio neges ar wefannau Twitter gwleidyddion a sefydliadau gwahanol yn ogystal â Facebook – ar ôl derbyn y wybodaeth ar E-bost.
Mae’n awyddus i wybod beth yw barn gwleidyddion a “beth maen nhw am wneud” amdano, meddai wrth Golwg360.

‘Trafodaethau’

“Rydym wedi bod yn ymwybodol o’r datblygiad diweddar yma, sydd yn amlwg yn annerbyniol, ers cryn fisoedd a’r hyn allwn ni ddatgelu yw bod trafodaethau ar y gweill rhwng elfennau o’r Cynulliad Cenedlaethol a PRS er mwyn gweddnewid y sefyllfa,” meddai llefarydd ar ran y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig wrth Golwg360.

“Oherwydd systemau cymhleth PRS i ddynodi arian mae’r taliadau’n gwbl droëdig tuag at y gorsafoedd hynny sy’n chwarae cerddoriaeth enwog Eingl Americanaidd ac mae Radio Wales yn ffitio’r categori hynny llawer fwy na Radio Cymru. Yn syml, dyna’r esboniad am y gwahaniaeth anferth,” meddai’r llefarydd.

“Er mai ychydig dros ddwywaith y gwrandawyr sydd gan Radio Wales mae’r taliadau dros 25 gwaith yn fwy oherwydd eu systemau o ddynodi arian i wobrwyo’r enwogion Eingl-Americanaidd ar y labeli mawr a hynny ar draul cerddoriaeth leiafrifol.”

Fe ddywedodd y llefarydd fod trafodaethau ar y gweill rhwng Cynghrair y Cyfansoddwyr a PRS “ers blynyddoedd” oherwydd y gwymp mewn taliadau i Radio Cymru.

“…ac mae’r codiad hwn i Radio Wales yn amlinellu’r argyfwng yn waeth. Er hynny, mae datblygiadau parhaol felly gall y sefyllfa yma fod yn un byr yn hytrach na hir  dymor. Mae’r awenau yn nwylo PRS ar y foment, ond mae symudiadau ar y gweill i gymryd yr awenau hynny oddi arnynt,” meddai.

Dibrisio caneuon Cymraeg’

Mae Ynyr Roberts o’r grŵp Brigyn wedi croesawu ymdrechion Gai Toms i dynnu sylw gwleidyddion a sefydliadau at y sefyllfa.

“Maen nhw’n talu mwy i’r artistiaid mawr…” meddai wrth siarad am y corff trwyddedu PRS. “Mae cân gan Gai Toms yn y byd go iawn yr un mor bwysig â chan gan Britney Spears. Dwy’ r ffaith bod ’na gannoedd ar filoedd o farchnata tu ôl i rywun enwog ddim yn meddwl bod y gân sydd ganddyn nhw’n bwysicach ac yn well. Mae’n beth gwleidyddol iawn ar y funud – bod Cymru wedi’i wthio i un ochr,” meddai wrth Golwg360.

“Mae’r tâl dw i’n cael gan Radio Cymru wedi mynd i lawr 90% i’r hyn oeddwn i’n cael. Roedden nhw wedi’n rhybuddio ni am hyn dair blynedd yn ôl, ac mae wedi dod i hyn. Mae’n sefyllfa ddigalon.”

Fe ddywedodd bod angen i Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad “godi’r mater am ei fod yn destun gwleidyddol”.

“Mae angen rhoi pwysau nawr ar y cwmni sy’n casglu’r arian… Dim problem Radio Wales na Radio Cymru ydi o. Ond, problem PRS. Maen nhw’n dibrisio caneuon Cymraeg – dydyn nhw ddim yn deall gwerth y gerddoriaeth.”