Mae Dr Andy Palmer, pennaeth cwmni ceir Aston Martin, wedi cyhoeddi ei fod e am adael ei swydd.

Daw’r cyhoeddiad wrth i bris cyfrannau’r cwmni, sydd â safle ym Mro Morgannwg, ostwng yn sylweddol.

Fe fydd Tobias Moers, pennaeth Mercedes-AMG, yn ei olynu fel prif weithredwr.

Roedd nifer y ceir wnaeth y cwmni eu gwerthu yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn bron iawn â haneru yn sgil y coronafeirws.

Fe wnaeth hyn achosi colledion cyn treth o £118.9m, i fyny o £17.3m y flwyddyn gynt.

Roedd pris cyfrannau’r cwmni i lawr 94% o’i gymharu â Hydref 2018, hyd yn oed cyn yr argyfwng.

Datganiad

Dywed Aston Martin mewn datganiad fod Dr Andy Palmer a’r bwrdd “wedi cytuno y byddai’n camu o’r neilltu o fod yn llywydd a phrif weithredwr y grŵp”.

Ac mae Dr Andy Palmer yntau’n dweud y bu’n “fraint” cael gwasanaethu’r cwmni ers chwe blynedd.

“Mae lansio sawl cynnyrch newydd, gan gynnwys y DBX newydd, yn dangos ymrwymiad a gallu ein gweithwyr,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i fy nhîm rheoli a’r holl staff am eu gwaith caled a’u cefnogaeth, yn enwedig yn ystod yr heriau mae Covid-19 wedi’u cyflwyno.

“Dw i’n falch ohonoch chi i gyd ac fe fu’n fraint gweithio gyda chi.”

Mae Lawrence Stroll, cadeirydd gweithredol y cwmni, wedi diolch iddo am ei “waith caled, ymrwymiad personol ac ymroddiad”, ond mae’n dweud mai “nawr yw’r adeg am arweiniad newydd i gyflwyno’n cynlluniau”.

Bydd Tobias Moers yn dechrau yn y swydd ar Awst 1, ac fe fydd e wedi’i leoli ym mhencadlys y cwmni yn Swydd Warwick.

“Dw i wir wedi cyffroi o gael ymuno ag Aston Martin Lagonda yn yr adeg hon yn ei ddatblygiad,” meddai.

“Dw i wedi bod ag angerdd erioed am ceir perfformiad ac yn edrych ymlaen at y cyfle i weithio i’r brand eiconig hwn.”