Bydd Cyngor Powys yn trafod cais i greu parlwr godro enmawr yn y sir heddiw – un o’r systemau godro mwyaf  yng Nghymru.

Bydd swyddogion cynllunio yn cyfarfod yn y Trallwng heddiw er mwyn trafod y cais gan y ffermwr lleol, Fraser Jones, i godi system odro ddigonol i gadw 1,000 o wartheg.

Mae pennaeth y gwasanaethau cynllunio eisoes wedi argymell y dylid gwrthod y cais oherwydd maint y datblygiad, ac mae nifer o fudiadau cadwriaethol wedi gwrthwynebu – er bod y cynllun diweddaraf, a gafodd ei ail-gyflwyno yn sgil pryderon amgylcheddol cynnar, wedi cael cymeradwyaeth cyrff amgylcheddol erbyn hyn.

Un o’r cyrff sydd wedi gwrthwynebu’r cais cynllunio yw Cadw – gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Yn ôl Cadw, fe fyddai’r datblygiad yn niweidiol i’r “golygfeydd o derasau Gardd Castell Powis a rhannau o’r parc,” ac mae Cyngor Cefngwlad Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi mynegi pryderon tebyg.

Mae rhai pobol leol hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â’r arogl posib o’r fferm a’r cynydd mewn traffig, ac mae’r cyngor wedi derbyn llythyron gan fudiadau sy’n gwrthwynebu’r cais ar sail hawliau anifeiliaid.

Cefnogaeth

Ond mae Fraser Jones yn mynnu y bydd safonau diogelwch anifeiliaid yn cael eu gwarantu gan y cynllun newydd, ac mae rhai llythyron o gefnogaeth wedi cyrraedd y Cyngor yn dweud y byddai’r cynllun yn cynnig gwaith i’r ardal leol, ac yn galw ar y Cyngor i gefnogi ffermwr lleol a’i deulu wrth geisio gwneud bywoliaeth o ffermio.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, ynghyd â Gwasanaethau Iechyd Amgylcheddol Powys a Gwasanaethau Cefn Gwlad Powys, hefyd wedi cymeradwyo’r cais, ar yr amod bod rhai ystyriaethau amgylcheddol yn cael eu cynnwys yn y cais cynllunio.

Ond mae swyddog cynllunio’r Cyngor, Arwel Evans, wedi dweud y dylid gwrthod y cais gan fod maint a lleoliad y datblygiad yn “gwrthdaro’n sylfaenol” ag amodau cynlluniau datblygu’r Cyngor.

Mae 450 o wartheg yn cael eu cadw ar fferm Lower Leighton ar hyn o bryd, gyda 200 o’r rheiny yn wartheg godro, ac mae o gwmpas 400 o ŵyn stôr yn cael eu ffermio yno.

O dan y cynllun newydd, fe fyddai Fraser Jones yn cadw dim ond gwartheg godro – gyda 1,000 o wartheg a dim anifeiliaid eraill.

Bydd Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor yn cyfarfod i drafod y cais cynllunio am 1pm heddiw, ac mae disgwyl iddyn nhw ddod i benderfyniad ar y mater y prynhawn yma.