“Mae’n anodd gweld pobol sy’n penderfynu drosom ni’n anwybyddu’r rheolau” yw neges Leanne Wood mewn fideo’n annog pobol i aros gartref dros Ŵyl y Banc.

Daw neges Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros ardal y Rhondda ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Dominic Cummings, prif ymgynghorydd Boris Johnson, wedi teithio i Durham ddwywaith yn groes i reolau Llywodraeth Prydain.

Mae pryderon unwaith eto y gallai Gŵyl y Banc arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n anwybyddu’r rheolau wrth fynd allan i fwynhau’r tywydd braf ac y gallai hynny, yn ei dro, arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Nghymru.

Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi fideo ar ei chyfryngau cymdeithasol yn atgoffa pobol o’r rheolau.

“Mae’n benwythnos Gŵyl y Banc, ac er ein bod ni’n gweld nifer o luniau o bobol yn mwynhau eu hunain ar draethau, mae’n werth cofio ac ategu fod Cymru’n dal dan warchae, ac nad oes modd mynd i ardaloedd hard ac yn drist iawn, does dim modd i ni fod yn treulio amser yn mwynhau ein hunain gyda theulu a ffrindiau fel y byddai’r rhan fwyaf ohonom, heb os, yn ei wneud fel arfer ar benwythnos Gŵyl y Banc,” meddai.

“Ac mae’n fwy anodd fyth, ar ôl deg wythnos, pan welwn ni’r rhai sydd wedi bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ein rhan ni’n anwybyddu’r rheolau ac yn ceisio cyfiawnhau amryw benderfyniadau yn y wasg.

“Y cyfan fyddwn i’n gofyn i bobol ei wneud yw cofio nad ydyn ni wedi dod drwyddi eto.

“Mae Covid-19 yn dal ar led yn ein cymunedau ac os yw grwpiau penodol o bobol yn ei gael e, fe all fod yn farwol.”

Ffigurau’r Rhondda

Yn ôl Leanne Wood, dydy hi ddim yn fodlon â ffigurau coronafeirws y Rhondda.

“Dw i eisiau gweld y gyfradd cylchredeg a’r gyfradd heintio’n gostwng, ond dim ond o gadw at y rheolau y gallwn ni wneud hynny, os gwnawn ni aros gartref, os cadwn ni i ymbellháu’n gymdeithasol ac yn osgoi’r demtasiwn o fynd allan i dreulio amser gyda’n teuluoedd a’n ffrindiau, yn enwedig dros benwythnos Gŵyl y Banc,” meddai.

“Felly cadwch yn ddiogel, bawb.

“Plis cadwch at y rheolau cyhyd ag y gallwch chi, ac aroshwch dan do.”

Ymarfer corff

“Os yw’r tywydd yn braf, ie, wrth gwrs y gallwch chi fynd i gael yr ymarfer corff di-ben-draw sy’n cael ei ganiatáu erbyn hyn,” meddai wedyn.

“Manteisiwch ar hynny, ond cadwch draw oddi wrth bobol eraill fel y gallwn ni atal yr ymlediad.

“Mwynhewch eich penwythnos Gŵyl y Banc.”