Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi atgoffa’r cyhoedd i aros yn lleol wrth fynd allan i ymarfer corff.

Daw hyn ar ôl iddo orfod cywiro Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, a oedd wedi honni bod gan bobl hawl i deithio hyd at 15 milltir i “bysgota, chwarae golf, syrffio neu wneud ymarfer corff” mewn neges ar Twitter ddoe.

Yn ôl y Prif Gwnstabl Mark Collins ni ddylai neb yrru ar gyfer mynd allan i ymarfer corff. Er ei fod wedi dweud ei bod yn rhesymol i bobl mewn ardaloedd gwledig deithio tua 10 milltir o’u cartrefi, roedd hyn ar gyfer teithiau hanfodol.