Fe ddaeth i’r amlwg fod Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi cael ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o ymosod.

Mae Plaid Cymru wedi tynnu’r chwip oddi arno tra bydd ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru:

“Mae Jonathan Edwards wedi derbyn y camau hyn ac mae’n cydymffurfio’n llwyr ag ymchwiliadau’r heddlu.

“Ni fyddai’n addas i’r blaid wneud rhagor o sylwadau ar hyn o bryd.”

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod dyn 44 oed o Rydaman wedi cael ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o ymosod ac iddo gael ei ryddhau ar fechnïaeth. Dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi ei enw na rhoi manylion pellach ar  hyn o bryd.

Mae Jonathan Edwards wedi cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan ers 2010.