Mae dyn wedi ei ddedfrydu i dair blynedd o garchar am ymosod ar dad i bump gyda mashete, ar ôl ei gyhuddo o ddwyn gwerth £12,000 o gyffuriau.

Cafodd Wayne Aguis, 33, ei ddenu i’r tŷ ar Illyt Road lle y bu i Shae Reffel, 22, ymosod arno gyda mashete.

Clywodd y llys fod yr ymosodiad wedi digwydd ar Ragfyr 9 y llynedd oherwydd bod Shae Reffel yn amau Wayne Aguis o ddwyn £12,000 o dŷ yn ardal Trelái yng Nghaerdydd, pan oedd e wedi mynd yno i brynu canabis.

Roedd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd yn un o’r rhai cyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru ers y gwarchae.

Cafwyd Shae Reffel yn euog o achosi niwed corfforol difrifol (GBH), ond yn ddieuog o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Cyn iddo gael ei ddedfrydu, clywodd y llys fod Wayne Aguis a’i deulu wedi cael eu gorfodi i symud o ardal Trelái yn sgil effaith yr ymosodiad arnyn nhw.

Dywed Wayne Aguis ei fod yn dioddef â chur pen difrifol yn ogystal â phoenau ac mae angen llawdriniaeth ar ei wyneb.

“Dw i’n meddwl y bydd hi’n cymryd blynyddoedd i’n teulu wella a theimlo’n arferol eto,” meddai.

“Dw i’n teimlo fel dieithryn yn lle dw i’n byw nawr.”