Bydd miloedd yn cystadlu pan fydd Eisteddfod T yn cael ei chynnal wythnos nesaf rhwng Mai 25-29.

Hyd yn hyn, mae 4,000 wedi cystadlu mewn dros 80 o gystadlaethau, gyda mwy o gystadlaethau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos.

Cafodd Eisteddfod yr Urdd eleni ei gohirio tan flwyddyn nesaf yn sgil y pandemig coronafeirws.

Yn ei lle, bydd eisteddfod ddigidol yn cael ei chynnal am y tro cyntaf, gyda chystadleuwyr yn anfon fideos o’u perfformiadau i gael eu beirniadu.

Bydd posib dilyn Eisteddfod T ar y teledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda hashnod #EisteddfodT.

“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel i’r holl gystadlaethau,” meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Sian Eirian.

“Mae safon y cystadlu yn aruchel a’r deunydd ysgafn yn llawer iawn o hwyl – rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr am wythnos o adloniant hwyliog o safon, ar yr holl gyfryngau.

“Mae’n Eisteddfod wahanol, ond mae’n mynd i fod yn Eisteddfod wych.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: “Er gwaetha’r siom o golli wythnos Eisteddfod yr Urdd ar ei ffurf draddodiadol, rwy’n ffyddiog bydd Eisteddfod T yn gallu camu i’r adwy a chreu digwyddiad cyffrous a chwbl unigryw.”