Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru wedi galw ar bobl i gadw at reolau’r gwarchae wrth iddynt bryderu am benwythnos Gŵyl y Banc prysur.

Dywed yr awdurdodau eu bod ofni y bydd pobl yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn ceisio cael mynediad i’r parciau cenedlaethol dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Maent wedi rhybuddio y byddai hynny yn rhoi cymunedau gwledig bregus y parciau mewn mwy o berygl o’r coronafeirws.

Mae awdurdodau’r parciau am atgoffa holl drigolion y Deyrnas Unedig fod y gwarchae dal mewn grym yng Nghymru ac mai dim ond teithiau hanfodol sy’n cael eu caniatáu.

Maent eisoes wedi cau nifer o safleoedd, gan gynnwys Llwybr yr Arfordir yn Sir Benfro, Yr Wyddfa yn Eryri, a Phen Y Fan ym Mannau Brycheiniog.

“Rydym wedi gweld bod negeseuon clir Llywodraeth Cymru yn cyrraedd llawr gwlad, a bod pobl ar y cyfan yn aros adref er mwyn aros yn ddiogel, a dim ond yn mynd allan i ymarfer o’u stepen drws, er y bu rhai eithriadau i hynny,” meddai’r Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Tra bod Owain Wyn, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi dweud:  “Mae’n gyfnod argyfyngus i’n cymunedau a’n gwasanaethau iechyd yma yn y Gogledd gan mai dim ond nawr rydym yn cyrraedd y brig o ran achosion o Covid-19.

“Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl pan fydd yn ddiogel – yn ddiogel i chi, ac yn ddiogel i’n cymunedau.”