Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i gynnal yr Eisteddfod AmGen.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros benwythnos hir rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 2 a bydd yn cynnwys cerddoriaeth, llenyddiaeth, comedi, celf, cyngherddau a chystadlu.
Bydd yna faes rhithiol gyda chyflwynwyr Radio Cymru’n tywys y gynulleidfa o’i gwmpas.
Rhan fawr o’r Eisteddfod AmGen fydd y cystadlaethau a’r seremonïau barddonol a llenyddol, gyda thestunau yn cael eu cyhoeddi cyn hir.
Ar ben hyn, bydd dysgwyr Cymraeg yn cael eu gwobrwyo wrth i BBC Cymru a’r Eisteddfod gydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Duolingo a Say Something in Welsh.
Bydd seremoni Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei darlledu fel rhan o’r ŵyl hefyd.
“Mae’r Eisteddfod yn unigryw a does dim dwywaith y byddwn yn gweld ei cholli eleni,” meddai Rhuanedd Richards, Golygydd Radio Cymru a Chymru Fyw.
Tra bod Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi dweud: “Mae pawb yn siomedig nad yw’r Eisteddfod ‘go iawn’ yn cael ei chynnal yng Ngheredigion eleni, felly ry’n ni wedi dod ynghyd er mwyn sicrhau bod modd i bobl fwynhau rhywfaint o flas a bwrlwm yr ŵyl yn ystod yr wythnos.
“Ry’n ni wedi gweithio gyda’r BBC i ddod â’r Eisteddfod yn fyw i’r gynulleidfa gartref ers blynyddoedd, felly mae’n braf gallu gwneud hyn eto eleni.”
Gallwch ddarllen cyfweliad gyda Phrif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, a llawer iawn mwy am yr Eisteddfod AmGen ar golwg+.