Bydd prawf covid-19 newydd yn cael ei gyflwyno ledled y Deyrnas Unedig – gyda llawer o’r citiau yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

Mae’r profion yn cael eu cynhyrchu gan nifer o gwmnïau gan gynnwys Ortho Clinical Diagnostics (OCD)  yn eu safle ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cwmni Americanaidd yw Ortho sydd wedi cael ei safle ym Mhencoed ers 40 o flynyddoedd. Mae’n cyflogi mwy na 500 o bobl. Mae’n cynhyrchu miliynau o brofion bob wythnos, sy’n cael eu dosbarthu ledled y byd, ar gyfer amrywiaeth o glefydau a chyflyrau meddygol.

Mae wedi dod i’r amlwg y bydd gweithwyr iechyd a gofal yn eu derbyn yn gyntaf yn Lloegr, ond does dim sicrwydd eto am y drefn yng Nghymru.

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, fydd yn penderfynu, ac mae disgwyl y byddan nhw ar gael mewn cartrefi gofal.

Mae lle i gredu mai hwn fydd yr unig gwmni a fydd yn eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.

“Cam pwysig ymlaen”

“Mae cymeradwyo a chynhyrchu y prawf gwrthgyrff newydd yn gam pwysig ymlaen yn ein hymdrech i rwystro lledaeniad y feirws, diogelu’r cyhoedd, a lleddfu’r cyfyngiadau,” meddai’r Gweinidog.

“Bydd y prawf yn dangos os oes gan rywun coronafeirws yn barod. Ond mae’n bwysig nodi, er bod y prawf yn dangos os yw rhywun eisoes wedi dal y feirws, nid yw’n glir pa mor imiwn y bydd y bobol hynny.”

Mae’r cryn sôn y gallai’r prawf gyfrannu’n fawr at y frwydr yn erbyn yr haint, trwy ddangos faint o’r boblogaeth sydd eisoes wedi ei dal.

Dywedodd uwch gyfarwyddwr gweithrediadau Ortho, Paul Hales: “Rydym wedi datblygu arbenigedd gweithgynhyrchu yma yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd gan ein galluogi i gynhyrchu’r cynhyrchion pwysig hyn.

“Mae’r tîm wedi bod yn gweithio ddydd a nos [i gynhyrchu’r profion]. Yn Ortho, credwn fod pob prawf yn fywyd ac rydym yn falch o weld y pecynnau hyn yn cael eu defnyddio yng Nghymru. ”

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae’r newyddion heddiw yn enghraifft o sefyllfa Cymru ar flaen y gad yn y sector gwyddorau bywyd rhyngwladol a’r rôl allweddol y mae busnesau Cymru yn ei chwarae mewn ymdrechion i frwydro yn erbyn Covid-19 yma yng Nghymru ac ar draws y byd.”

Math arall o brawf hefyd?

Dywedodd Mr Gething fod gwaith hefyd yn mynd rhagddo yng Nghymru i ddatblygu math arall o brawf gwrthgyrff sy’n cynnwys tynnu gwaed a phrofi gyda dyfais i roi canlyniad mewn dim ond munudau, a fyddai’n helpu i wneud profion gwrthgyrff ar gael yn fwy eang.

“Rydym hefyd yn edrych i ddarparu math arall o brawf gwrthgyrff, sy’n gallu rhoi canlyniad mewn munudau. Ynghyd â’r prawf a gyhoeddwyd heddiw, bydd hyn yn ffurfio rhan bwysig o’n strategaeth profi ac olrhain i helpu Cymru i ddod allan o’r cyfyngiadau, “meddai.

“Cyn bo hir byddaf yn cyhoeddi sut y bydd y profion gwrthgyrff hyn yn cyd-fynd â’r strategaeth a phryd y bydd ein gweithwyr allweddol a’r cyhoedd yn gallu cael mynediad atynt.”