Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi amddiffyn polisi Llywodraeth Cymru ar gynnal profion Covid-19 mewn cartrefi gofal.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyfeirio Llywodraeth Cymru at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol oherwydd pryderon am yr oedi wrth gynnal profion am y coronafeirws mewn cartrefi gofal.

Fe fu beirniadaeth chwyrn o’r penderfyniad i anfon rhai cleifion oedrannus o’r ysbyty, heb iddyn nhw gael prawf, i gartrefi gofal ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod cynnar y pandemig. Y bwriad oedd rhyddhau gwelyau yn yr ysbytai.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ar y pryd nad oedd “gwerth” profi pawb lle nad oedd neb yn arddangos symptomau.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ei fod yn “bryderus iawn” ynghylch torri hawliau pobl hŷn ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig.

Meddai Ruth Coombs, Pennaeth EHRC Cymru: “Rydym yn parhau i bryderu’n fawr am achosion difrifol posibl o dorri hawliau dynol pobl hŷn yn ystod y pandemig hwn.

“Ymateb araf gan Lywodraeth Cymru i brofi preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal, rhyddhau cleifion hŷn â’r coronafeirws o’r ysbyty i gartrefi gofal, enghreifftiau o benderfyniadau gofal iechyd amhriodol ar faterion fel hysbysiadau peidio â cheisio adfywio, a diffyg PPE digonol ar gyfer gweithwyr gofal – [mae hyn oll] wedi cyfrannu at gryn ofid, diffyg hyder y bydd eu hawliau yn cael eu diogelu, ac, yn y pen draw, at golli bywydau.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Comisiynydd Pobl Hŷn a phartneriaid eraill sy’n cynrychioli buddiannau pobl hŷn, ac rydym yn ystyried defnyddio ein holl bwerau i ddiogelu eu hawliau yn awr ac ar ôl pandemig y coronafeirws.”

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots, ei bod yn pryderu nad yw hawliau pobl hŷn yn cael eu hamddiffyn mewn cartrefi gofal.

Mewn datganiad, ychwanegodd: “Mae’r sefyllfa rydyn ni wedi’i gweld yn ein cartrefi gofal yn ystod pandemig Covid-19 wedi bod yn drychineb, ac mae gen i bryderon nad yw hawliau pobl hŷn wedi cael eu diogelu’n ddigonol, yn y lleoliadau hyn, ac ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn ehangach.

“Mae’n hanfodol ymchwilio i’r pryderon hyn, a’r pryderon a godwyd gan bobl hŷn, eu teuluoedd, a staff cartrefi gofal ledled Cymru, a chredaf mai’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fyddai yn y sefyllfa orau i archwilio a chraffu ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o ymchwiliad ehangach sy’n edrych ar brofiadau pobl hŷn a’r camau sydd wedi’u cymryd ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae’n rhaid i hawliau pobl hŷn fod wrth wraidd y camau a’r penderfyniadau am yr hyn sy’n digwydd yn ein cartrefi gofal ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu gwaith craffu allanol gan y Comisiwn, a fydd yn helpu i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu gwarchod, nawr ac yn y dyfodol.”

Amddiffynodd Vaughan Gething y polisi ar gynnal profion Covid-19 mewn cartrefi gofal ar raglen Today ar BBC Radio 4: “Y cyngor a’r dystiolaeth gawson ni ar y pryd oedd bod dim gwerth mewn cynnal profion ar bobl oedd ddim yn dangos symptomau.

“Fe wnaethon ni newid hynny a dechrau cynnal profion ar bobl oedd yn gadael yr ysbyty o Ebrill 22 ymlaen.”

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ehangu ei rhaglen brofi er mwyn i bob cartref gofal yng Nghymru allu cael profion a bydd yn gallu archebu pecynnau profi ar-lein ar gyfer preswylwyr a staff.

Roedd y profi yng Nghymru wedi bod yn fwy cyfyngedig nag yn Lloegr, lle mae holl breswylwyr a staff y cartref gofal wedi bod yn gymwys i gael profion waeth beth fo’r symptomau ers diwedd mis Ebrill.