Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo £650,000 o gyllid ar gyfer system newydd sy’n darparu cyngor arbenigol i feddygon teulu, parafeddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, a hynny o fewn eiliadau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd yr ap Consultant Connect yn cael ei ddefnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i helpu i drin achosion o’r coronaferiws yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad i gleifion.

Y bwriad yw y bydd yr ap yn atal derbyniadau ac atgyfeiriadau diangen i’r ysbyty ac yn sicrhau fod pobl sydd angen triniaeth yn ei derbyn, drwy roi mynediad cyflym i gyngor.

Mae’n rhoi mynediad at arbenigwyr ym maes meddygaeth anadlol, cardioleg, diabetes, gofal lliniarol, a meddygaeth acíwt ar gyfer y coronafeirws.

Bydd modd i feddygon teulu neu glinigwr gael mynediad i’r gwasanaeth drwy rif ffôn neu drwy ddefnyddio’r ap Consultant Connect, fydd yn eu cysylltu gydag arbenigwr mewn oddeutu 25 eiliad.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu dechrau cynnig yr ap Consultant Connect yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i gefnogi gweithwyr gofal sylfaenol i benderfynu ar y driniaeth gywir ar gyfer eu cleifion,” meddai Vaughan Gething.

“Yn awr, bydd yn arbed amser gwerthfawr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn lleihau nifer yr ymweliadau y mae’n rhaid i gleifion eu gwneud â’r ysbyty, ar adeg pan fo ein Gwasanaeth Iechyd o dan bwysau ychwanegol.”