Dyw Plaid Cymru ddim yn ofni Neil McEvoy, yn ôl un o ffigyrau amlycaf y mudiad cenedlaethol.

Wrth siarad â Golwg yr wythnos ddiwethaf, dywedodd arweinydd y WNP (Welsh National Party) bod Plaid Cymru yn “pryderu” am ei apêl yntau yn y gogledd.

Ond mewn llythyr yn rhifyn yr wythnos hon, mae Dafydd Iwan wedi ymateb â beirniadaeth hallt o’r Aelod o’r Senedd.

“Dyn sy’n anhapus yn ei groen ei hun yw Neil,” meddai, gan ategu ei fod yn “feistr ar gadw’i enw yn y newyddion”.

“Gallaf sicrhau Neil nad yw Plaid Cymru yn ei ofni, ond yn pryderu’n fawr ei fod yn parhau i wanhau’r achos cenedlaethol drwy ymrwygo ac ymrannu,” meddai Dafydd Iwan wedyn.

Gallwch ddarllen rhagor o’r llythyr ar golwg+.

Neil McEvoy a’r Blaid

Roedd Neil McEvoy ar restr Plaid Cymru pan enillodd ei sedd yn y Senedd yn 2016, ond cafodd ei wahardd o’r Blaid ddwy flynedd yn ddiweddarach – a hynny, am dorri ei rheolau sefydlog.

Mae’r berthynas rhwng yntau a’i gyn-blaid wedi bod yn un dymhestlog, ac mae’r ffraeo yn parhau hyd heddiw.

Mae bellach wedi sefydlu’r WNP ac wedi denu cynghorwyr yng Ngwynedd (un o Blaid Cymru) i ymuno ag ef.

“Beth sy’n anghyfforddus i’r blaid yw’r diddordeb rydym ni hefyd yn ei ddenu yng ngogledd Cymru,” meddai wrth Golwg yr wythnos ddiwethaf. “Dw i’n credu bod hynny yn amlwg yn pryderu nhw.”

Mae enw’r WNP bellach yn cael ei ailystyried gan y Comisiwn Etholiadol, wedi i Blaid Cymru herio hawl y blaid i’w defnyddio.

Ymateb

Mae Golwg wedi gofyn i Neil McEvoy am ymateb.