Bydd y ddirwy uchaf am aildroseddu yn erbyn cyfyngiadau’r coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu o £120 i £1,920, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw.

Caiff y cynnydd yn y dirwyon ei gyflwyno i’r Senedd cyn penwythnos gŵyl y banc ac mae’n dilyn cais gan bedwar heddlu Cymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gynyddu’r cosbau.

Mae tystiolaeth gan y pedwar heddlu yn dangos bod lleiafrif bach o bobl yn torri’r rheoliadau a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws, yn enwedig drwy deithio i fannau twristaidd enwog Cymru, a hynny er eu bod ar gau ers diwedd mis Mawrth.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau i’r strwythur dirwyon, a ddaw i rym ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae’r dystiolaeth gan y prif gwnstabliaid a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn dangos bod angen strwythur dirwyon cryfach arnon ni i rwystro’r lleiafrif bach hwnnw o bobl sy’n methu dro ar ôl tro â chadw at y rheolau.”

“Wrth i benwythnos gŵyl y banc ddynesu, rydym yn parhau i ofyn i bobl aros gartref i’w diogelu eu hunain a’u hanwyliaid rhag y coronafeirws. Os ydych chi’n ymarfer corff – cofiwch aros yn ddiogel ac aros yn lleol.

“Bydd y newidiadau hyn yn anfon neges bendant i’r lleiafrif bach o bobl sy’n mynnu anwybyddu’r rheolau a thanseilio ymdrechion pawb arall sy’n gwneud y peth cywir.”

Bydd cosbau sefydlog cychwynnol yn aros yr un fath, sef £60 – felly ni fyddant yn gyfartal â’r dirwy cychwynnol yn Lloegr, sef £100. Fodd bynnag, byddant yn dyblu bob tro y caiff rhywun ddirwy, hyd at uchafswm o £1,920 am y chweched trosedd.

Bydd y rheoliadau newydd i gynyddu’r dirwyon yn cael eu gosod gerbron y Senedd ddydd Iau gan ddod i rym ddydd Gwener mewn pryd ar gyfer penwythnos gŵyl y banc.