Mae’r argyfwng Covid-19 wedi profi bod angen datganoli darlledu i Gymru a rhoi mwy o gefnogaeth i’r wasg Gymreig, yn ôl Delyth Jewell AS.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael trafferthion wrth gyfathrebu ei neges am y sefyllfa yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda dryswch yn cael ei achosi gan fethiant Boris Johnson i esbonio bod llawer o gynnwys ei negeseuon teledu ond yn berthnasol i Loegr.

Yn ogystal, mae mwyafrif pobl Cymru yn cael eu newyddion gan bapurau Llundain, sy’n cynnwys negeseuon Covid-19 am Loegr yn hytrach na Chymru, heb esboniad.

Fe wnaeth arolwg barn diweddar gan YouGov ddangos na allai 40% o’r Cymry roi barn am berfformiad y Prif Weinidog Mark Drakeford oherwydd diffyg gwybodaeth. Y ffigwr cyfatebol yn yr Alban oedd 6%.

Yn ystod cyfarfod rhithiol o’r Senedd heddiw (dydd Mercher, 20 Mai), gofynnodd Delyth Jewell AS i’r Prif Weinidog a oedd e bellach o blaid datganoli darlledu i Gymru fel un ffordd angenrheidiol o geisio gwella’r sefyllfa:

“Mae’r argyfwng Covid-19 wedi amlygu sawl problem strwythurol o fewn y tirlun gwleidyddol Cymreig, ac mae gwendid difrifol ein gwasg gynhenid yn un o’r amlycaf.

“Dydw i ddim yn credu bod unrhyw fai ar y wasg yng Nghymru am y sefyllfa hon oherwydd mae’n broblem sydd wastad wedi bodoli ac wedi gwaethygu yn sgil cwymp y papurau newydd, gyda papurau Llundeinig bellach yn dominyddu’r farchnad yng Nghymru.

“Mae’n amlwg bod angen buddsoddiad trawsnewidiol er mwyn cefnogi’r wasg brint yng Nghymru a bod angen sicrhau bod darllediadau teledu a newyddion yng Nghymru yn adlewyrchu’r sefyllfa yma.

“Rwy’n credu bod yr achos dros ddatganoli darlledu i Gymru bellach yn anatebol er mwyn sefydlu a chefnogi gwasg gynhwysfawr, o brint i ddarlledu i ddigidol, sy’n adlewyrchu anghenion ein cenedl.”

Yn ei ateb, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn cytuno bod angen cryfhau’r wasg ond ei fod yn rhagweld problemau gyda defnyddio arian llywodraeth i wneud hynny. Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS:

“Dw i’n cytuno gyda beth mae Delyth Jewell yn ddweud bod hi’n angenrheidiol i ni drïo cryfhau beth mae pobl yng Nghymru yn gallu ei gael gan bobl sy’n gweithio yng Nghymru yn y wasg a thrwy ddarlledu.

“Ond mae’n anodd i’r llywodraeth sefyll i fewn i’r bwlch yna on’d yw e? Achos mae arian o’r llywodraeth yn codi pryderon gyda phobl os bydd yn rhoi pwysau ar bobl sy’n rhoi’r newyddion i wneud e mewn ffordd mae’r llywodraeth eisiau ei weld.”

Gan gyfeirio at sylw’r Prif Weinidog ynghylch sicrhau annibyniaeth y wasg, ymatebodd Delyth Jewell:

“Rwy’n cydnabod y pryder mae’r Prif Weinidog yn gyfeirio ato o ran sicrhau annibyniaeth y wasg, ond rwy’n credu bod modd ei ddatrys – mae Siarter y BBC yn darparu’r math o dempled all gael ei ddefnyddio er mwyn cyflawni hyn,” meddai.