Mae pryderon fod cleifion iechyd meddwl yn cael eu troi ymaith o wasanaethau cefnogi iechyd meddwl oherwydd pwysau argyfwng y coronafeirws.

Mae llythyr a ddatgelwyd gan Blaid Cymru, yn dangos fod claf wedi ei droi ymaith o wasanaethau cefnogi iechyd meddwl lleol yn Sir y Fflint oherwydd “sefyllfa’r coronafeirws”.

Mae’r llythyr yn dweud fod cleifion wedi eu cynghori i drafod ailgyfeirio gyda’u meddygon teulu “wedi i’r cyfyngiadau gael eu codi”.

‘Annerbyniol’

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn “bryderus iawn” fod meddygon yn cael cyfarwyddyd i anfon cleifion bregus i “gefn y ciw”.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, er ei fod yn deall y byddai oedi gydag apwyntiadau oherwydd Covid-19, fod troi ymaith gleifion sy’n derbyn cefnogaeth iechyd meddwl oherwydd problemau capasiti yn “annerbyniol”.

Dywedodd fod problemau yn cronni, gyda salwch meddwl heb dderbyn triniaeth neu ddiagnosis oherwydd yr argyfwng presennol.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar ffyrdd i “gynyddu cefnogaeth” i’r sawl â phroblemau iechyd meddwl yn hytrach na bod mewn sefyllfa  mae meddygon yn cael cyfarwyddyd i’w troi ymaith.

Ar gynnydd

Dywedodd Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Geoff Ryall-Harvey, fod y sefyllfa yn “achosi llawer o bryder”.

Nid yw’n gweld “unrhyw reswm” pam y dylid troi cleifion sydd â phroblemau iechyd meddwl i ffwrdd.

Dywedodd hefyd fod nifer y cleifion sy’n mynd at feddygon teulu gyda phroblemau iechyd meddwl “ar gynnydd”.

“Cafodd gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol, nad ydynt yn rhai brys, eu hatal ar gyngor Llywodraeth Cymru, oherwydd problemau ymbellhau cymdeithasol” meddai Geoff Ryall-Harvey.

“Mae’n hawdd deall hyn dan yr amgylchiadau. Fodd bynnag, yn y gogledd, mae cleifion wedi’u troi ymaith o’r gwasanaeth a [chael gwybod] y dylen nhw geisio cael eu hailgyfeirio at y gwasanaeth wedi i “gyfyngiadau COVID-19 gael eu codi”.

“Mae hyn yn achosi cryn bryder. Welwn ni ddim rheswm pam y dylai cleifion sydd eisoes â phroblemau iechyd meddwl gael eu troi ymaith.

“Ar hyn o bryd, mae cleifion angen cefnogaeth broffesiynol yn fwy nag erioed. Mae meddygon teulu lleol yn dweud wrthym fod nifer y cleifion sy’n dod atynt gyda phroblemau iechyd meddwl ar gynnydd, ac ar ôl COVID-19, gallai hyn achosi trafferthion.

“Gallai hyn olygu y byddai cleifion yn cael anhawster derbyn triniaeth wrth i restrau aros gynyddu’n sylweddol.”