Bydd gwasanaethau angladdol 45 munud yn cael eu cynnal unwaith eto yng Nghaerdydd ar ôl iddyn nhw gael eu cyfyngu i 30 munud am ugain diwrnod ar ddechrau ymlediad y coronafeirws.

Cafodd y gwasanaethau byrrach eu cyflwyno i gynyddu nifer yr angladdau y gellid eu cynnal yn ystod y pandemig Covid-19, ac i sicrhau nad oedd angen i bobol mewn profedigaeth aros yn rhy hir am wasanaeth.

Mae angladdau hefyd wedi’u cynnal ar chwe niwrnod yr wythnos yn hytrach na phump.

Amser

“Mae ein tîm Gwasanaethau Profedigaeth, a’r nifer o staff ychwanegol sydd wedi cael eu hadleoli i’r gwasanaeth, wedi gwneud gwaith gwych yn ystod cyfnod hynod heriol,” meddai’r Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth yng Nghaerdydd.

“Mae eu tosturi a’u proffesiynoldeb wrth ddelio â thrasiedi Covid-19 yn haeddu ein diolch a’n cydnabyddiaeth, ond fe wn i, fel pawb arall, y bydd y tîm yn falch ein bod unwaith eto’n gallu cynnig ychydig bach o amser ychwanegol i bobol gael galaru dros eu hanwyliaid.”

Bydd gwasanaethau 45 munud yn cael eu hailgyflwyno o Fai 26.