Mae Plaid Cymru am gyflwyno gwelliant i ddeddfwriaeth fewnfudo sy’n ystyried rhoi dinasyddiaeth Brydeinig i staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n dod o wledydd tramor.

Cyn y darlleniad cyntaf ddoe (dydd Llun, Mai 18), lle cafodd y mesur ei basio o 351 o bleidleisiau i 252, dywedodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, y byddai gwelliant yn cael ei gyflwyno pe bai’r mesur yn cael ail ddarlleniad.

Mae Hywel Williams wedi tynnu sylw at sefyllfa’r Gurkhas, oedd wedi cael dinasyddiaeth Brydeinig am eu cyfraniad i amddiffyn gwledydd Prydain.

Mae oddeutu 25% o staff y Gwasanaeth Iechyd yn dod o’r tu allan i wledydd Prydain, yn ôl ffigurau swyddogol.

Sylwadau Hywel Williams

“Yn awr yn fwy nag erioed, rydym wedi gweld y gwerth a roddir i gymunedau ledled y Deyrnas Gyfunol gan bobol sydd wedi dewis ymgartrefu yma,” meddai Hywel Williams.

“Y Mesur hwn a Swyddfa Gartref Priti Patel a geisiodd godi bwganod am lawer o’r rhai sy’n brwydro yn erbyn y feirws fel ‘gweithiwr sgiliau isel’, fel y staff gofal sy’n edrych ar ôl y bobol fwyaf bregus ac yn peryglu eu hunain.

“Rhoddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol hawliau dinasyddiaeth Brydeinig i’r Gurkhas am eu medr, eu dewrder a’u hurddas yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf anodd ein hanes.

“Dyw’r pandemig Coronafeirws ddim yn wahanol.

“Mae’r Mesur hwn erbyn hyn yn edrych fel petai’n dod o oes arall, a does dim modd iddo gael ei basio fel y saif.

“Mae’n gychwyn system fewnfudo fwy adweithiol ar yr union adeg y mae mwy o bobol nag erioed yn rhoi gwerth ar gyfraniad mewnfudwyr i’n cymdeithas.

“Dyma’r amser i ni yng Nghymru fynnu’r pwerau i greu system fewnfudo decach i Gymru, wedi ei theilwrio i anghenion ein cymunedau a’n heconomi.”