Mae’r Blaid Lafur yn dweud bod mesurau mewnfudo arfaethedig Llywodraeth Prydain yn awgrymu nad oes croeso bellach i’r gweithwyr iechyd sy’n cael eu clapio bob wythnos.

Maen nhw’n dweud bod gweinidogion yn “hapus iawn” i gefnogi mesurau sy’n awgrymu “nad oes croeso” i bobol o dramor yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Llafur Torfaen a llefarydd materion cartre’r blaid yn San Steffan, mae’r cynllun sy’n cael ei gynnig yn “anfon y neges” fod unrhyw un sy’n ennill llai na £25,600 yn “ddi-sgil”.

Ond mae’n wfftio’r awgrym, wrth amddiffyn cyfraniad gweithwyr siop, gweithwyr casglu sbwriel a staff llywodraeth leol o dramor sydd wedi chwarae rhan yn yr ymateb i’r coronafeirws.

Y ddeddfwriaeth

Mae aelodau seneddol yn ystyried mesurau i ddiddymu rheolau symud yn rhydd yr Undeb Ewropeaidd yng ngwledydd Prydain.

Mae’r ddeddfwriaeth eisoes wedi pasio’r cam cyntf, o 351 o bleidleisiau i 252.

Mae’n rhan o system bwyntiau newydd y Llywodraeth a fydd yn cael ei chyflwyno’r flwyddyn nesaf.

Fis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain system bwyntiau ar gyfer sgiliau gwahanol megis siarad Saesneg, cael cynnig swydd gan gyflogwr cydnabyddedig a throthwy isafswm cyflog o £25,600.

Gallai pwyntiau gael eu rhoi am gymwysterau penodol os oes yna brinder gweithwyr mewn maes penodol.

Cafodd fisa ei gyflwyno ym mis Mawrth ar gyfer meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd o dramor fel bod modd iddyn nhw weithio yn y Gwasanaeth Iechyd.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn amlinellu’r rheolau newydd ar gyfer pobol o wledydd yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt sy’n penderfynu symud i wledydd Prydain ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben ym mis Rhagfyr.

Yn ôl Priti Patel, yr Ysgrifennydd Cartref, byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn creu “system fwy cadarn, decach a symlach” wrth i wledydd Prydain wella o’r coronafeirws.

Mae hi’n dweud bod staff y Gwasanaeth Iechyd yn dangos “ochr orau Prydain”, ac mai dyna pam ei bod hi am gyflwyno system fydd yn “blaenoriaethu’r staff cymwys sydd eu hangen i ddarparu gofal proffesiynol o safon uchel”.

Mae’n dweud ymhellach y byddai’r ddeddfwriaeth yn “rhoi terfyn ar symud yn rhydd” ac yn “adennill rheolaeth o’n ffiniau”.

‘Di-sgil a dim croeso’

Ond mae Nick Thomas-Symonds yn dweud bod y ddeddfwriaeth, o osod isafswm cyflog o £25,600 i weithwyr, yn “anfon neges ac yn dweud wrth bobol fod unrhyw un sy’n ennill llai na hynny’n ddi-sgil ac nad oes croeso iddyn nhw yn ein gwlad ni”.

Mae’n dweud nad yw cyflogau gweithwyr y rheng flaen yn adlewyrchu eu cyfraniad i fywyd yng ngwledydd Pydain.

“Mae’r rhai a glapiodd nos Iau yn hapus iawn i bleidleisio dros Fesur heddiw a fydd yn anfon neges bwerus i’r bobol hynny – nad ydyn nhw’n cael eu hystyried gan y Llywodraeth hon fel gweithwyr â sgiliau,” meddai.

“Ydy gweithwyr siop yn ddi-sgil? Beth am weithwyr casglu sbwriel? Gweithwyr llywodraeth leol? Staff y Gwasanaeth Iechyd? Gweithwyr gofal?

“Wrth gwrs nad ydyn nhw.”

‘Ofnadwy’

Yn ôl yr SNP, mae’r ddeddfwriaeth yn “ofnadwy”.

“Mae’n Fesur a fydd yn arwain at filoedd o drigolion yr Undeb Ewropeaidd yn colli eu hawliau yn y wlad hon dros nos, ac a fydd yn ehangu’r awyrgylch atgas ymhellach,” meddai Stuart McDonald, llefarydd mewnfudo’r blaid.

Mae’r mesur yn “ddiffygiol”, yn ôl Yvette Cooper, cadeirydd Llafur y Pwyllgor Materion Cartref.

Ond mae’n cyfaddef fod angen deddfwriaeth fewnfudo ac yn dweud y bydd hi’n cyflwyno gwelliannau, ac na fydd hi’n pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth yn ei chyfanrwydd.

Ac yn ôl ei chydweithwraig Diane Abbott, mae’r ddeddfwriaeth “yn wael mewn egwyddor, ac yn wael mewn gwirionedd”, yn ogystal â bod yn “slap yn wynebau’r miloedd o fewnfudwyr, gan gynnwys mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd, sy’n gweithio mor galed i’r Gwasanaeth Iechyd a’r sector gofal yn ystod cyfnod yr argyfwng Covid”.