Edwina Hart
Mae un o brif gwmniau ymgynghori amgylcheddol y byd yn bwriadu ymestyn eu busnes yng Nghymru, gyda’r gobaith o greu 20 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf.

Cafodd swyddfa newydd cwmni ERM ei agor yn Abertawe ddoe, gyda 18 o swyddi eisoes wedi eu creu yno.

Yn yr agoriad, dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, ei bod hi’n croesawu cynlluniau ERM – sy’n gobeithio dyblu eu busnes yng Nghymru mewn dwy flynedd.

Yn ôl y Gweinidog Busnes, mae annog datblygiadau gwyrdd yn un o gryfderau Cymru ar hyn o bryd.

“Mae ynni a’r amgylchedd yn ddau o’n prif sectorau ni yng Nghymru,” meddai. “Mae hi felly yn newyddion da i glywed fod cwmni rhyngwladol fel ERM wedi adnabod y potensial i dyfu busnes ym Mhrydain, a’u bod nhw’n buddsoddi yn yr ardal.

“Mae ERM yn un o nifer o gwmnїau llwyddiannus sy’n gweithio yn y sector hyn yng Nghymru lle mae ’na gyfleon sylweddol a nifer o fuddsoddiadau enfawr ar waith ac yn cael eu cynllunio dros y ddegawd nesaf.”

Mae’r cwmni eisoes wedi bod yn gweithio yn ne Cymru, gyda swyddfa dros dro tan yn ddiweddar yn cefnogi gwaith cwmni BP yn Llandarsi.

Partneriaeth a phrifysgolion

Ond mae swyddfa parhaol i ERM yn Abertawe nawr yn golygu bod 18 swydd newydd wedi dod i’r ardal, gan gynnig cyfleoedd i raddedigion ac ymgynghorwyr amgylcheddol.

Ymhlith cleientiaid presennol y cwmni, sy’n cyflogi 3,600 o staff sy’n gweithio mewn 40 o wledydd ar draws y byd, mae SSE, GE, 3M, Tata, NPower a Tesco, yn ogystal â Llywodraeth Cymru a nifer o Awdurdodau Lleol.

“Rydyn ni’n gweld Cymru fel lle da i wneud busnes ac rydyn ni wrth ein boddau yn medru creu presenoldeb i’n cwmni yn Abertawe,” meddai Steve Matthews, Partner Rheoli ERM yng Nghymru ac Iwerddon.

“Mae ein sectorau busnes craidd yn cynnwys pwer ac adnewyddon, olew a nwy, cloddio, gweithgynhyrchu ac adnewyddu, ac mae bob un o’r rhain yn holl bwysig i economi Cymru dros y ddegawd nesaf a thu hwnt.”

Mae ERM yn dweud eu bod nhw hefyd yn awyddus i greu cysylltiadau â phrifysgolion a cholegau Cymru a chyflogi graddedigion yng Nghymru, ac mae cynlluniau gan y cwmni i weithio gydag ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a chynaladwyaeth, ac annog myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd yn y sectorau hyn.