O‘r wythnos hon ymlaen (dydd Llun 18 Mai), bydd pawb yng Nghymru sydd â symptomau coronafeirws yn gallu gofyn am brawf wedi i wasanaeth archebu ar-lein newydd ddod ar gael.

Mae Cymru’n ymuno â system newydd ledled Prydain ar gyfer archebu pecynnau profi yn y cartref, yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘Olrhain, Profi, Diogelu’. Daw hyn ar ôl cefnu ar system benodol i Gymru.

Symptomau

Ddydd Llun, Mai 18,  cadarnhaodd pedwar prif swyddog meddygol Prydain bod colli’r gallu i arogli neu flasu (anosmia) wedi cael ei ychwanegu at y rhestr o symptomau coronafeirws.

Mae hyn yn golygu o ddydd Llun ymlaen, bydd angen i bobl ynysu eu hunain os oes ganddyn nhw’r symptomau hyn. Byddan nhw hefyd yn gallu gofyn am brawf gan ddefnyddio’r system newydd.

Rhaid i bob aelod o’u haelwyd hefyd hunan ynysu am 14 diwrnod, oni bai bod canlyniad prawf negyddol gan y person â’r symptomau.

Bydd unrhyw un sy’n profi’r symptomau coronafeirws eraill – tymheredd uchel a pheswch parhaus – hefyd yn gallu gwneud cais am becyn profi cartref gan ddefnyddio porth ar-lein newydd y Deyrnas Unedig.

Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan wasanaeth ffôn cenedlaethol 119, y gall pobl hefyd ei ddefnyddio i archebu prawf cartref.

‘Olrhain, Profi, Diogelu’

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam mawr ymlaen o ran cynyddu’r profion coronafeirws yng Nghymru hyd yn oed ymhellach” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

“Bydd gweithwyr allweddol yn parhau i gael blaenoriaeth ar gyfer profi ond bellach gall aelodau o’r cyhoedd sydd â symptomau wneud cais am brawf. Bydd nifer y bobl y gallwn eu profi yn cynyddu wrth i ni barhau i adeiladu ein capasiti.

“Ar y cyd ag ap olrhain newydd, mae’r cynnydd hwn mewn profi yn ganolog i’n strategaeth ‘Olrhain, Profi, Diogelu’ a fydd yn ein helpu i leihau lledaeniad y firws ymhellach a lleihau’n raddol y cyfyngiadau ar fywyd bob dydd yng Nghymru.

“Y cyhoedd fydd ein partneriaid pwysicaf wrth gyflwyno’r strategaeth hon – gofynnwn mai dim ond y bobl hynny sydd â symptomau i ofyn am brawf, er mwyn sicrhau eu bod yn mynd at y bobl gywir.”