Bydd gwaith i atal llifogydd gwerth £700,000 yn ail-ddechrau yn Y Felinheli heddiw (dydd Llun, Mai 18).
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Roedd yn rhaid i Gyngor Gwynedd ohirio’r gwaith yn sgil y coronafeirws, ond daeth cyhoeddiad y byddai’r gwaith yn gallu ail-ddechrau ar Fai 18.
Mae’r contractwyr, cwmni adeiladwaith OBR o Ynys Môn, wedi gosod trefn weithio newydd yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys canllawiau ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
“Prosiect pwysig”
“Mae iechyd y cyhoedd yn flaenoriaeth i ni fel cyngor, felly rydym yn falch fod y contractwyr yn gallu gweithio mewn modd diogel er mwyn caniatáu i’r gwaith ail-ddechrau ar y prosiect pwysig hwn,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb am adran Ymgynghoriaeth y Cyngor sy’n rheoli’r prosiect.
“Oherwydd y gohiriad bydd y dyddiad cwblhau yn hwyrach na’r disgwyl, gyda chanol mis Medi yn debygol bellach.”
Tra bod y Cynghorydd Gareth Griffith, sy’n cynrychioli’r Felinheli ar Gyngor Gwynedd, wedi dweud: “Dwi’n falch bod y gwaith pwysig yma’n Felinheli yn ailgychwyn a bod trefniadau mewn lle i wneud hynny’n ddiogel.
“Mi fydd yna rywfaint o anghyfleustra i drigolion megis colli llefydd parcio dros-dro yn ystod y gwaith, ond bydd y contractwyr yn ceisio lleihau unrhyw effaith ar drigolion.”