Mae cwmni Ford wedi cyhoeddi eu bod yn ail-ddechrau cynhyrchu ceir yn eu ffatrïoedd yn y Deyrnas Unedig.

Fe fydd gweithwyr yn dychwelyd i’w gwaith yn ffatrïoedd y cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Dagenham yn Essex ar ôl cau yn sgil y coronafeirws.

Roedd eu ffatri yn Valencia yn Sbaen wedi ail-ddechrau cynhyrchu peiriannau’r ceir yn gynharach yn y mis, ac fe fydd ail-agor eu ffatrïoedd yn y Deyrnas Unedig yn golygu bod holl ffatrïoedd Ford yn Ewrop bellach wedi ail-agor.

Roedd nifer cyfyngedig o staff wedi parhau i weithio ar safleoedd y cwmni yn y Deyrnas Unedig dros yr wythnosau diwethaf er mwyn sicrhau eu bod yn parhau gyda gwasanaethau hanfodol.

‘Lles gweithwyr yw’r flaenoriaeth’

Y flaenoriaeth yw lles eu gweithwyr a sicrhau eu bod yn cadw at fesurau iechyd a diogelwch, meddai cadeirydd Ford yng ngwledydd Prydain Graham Hoare.

Mae Ford wedi amlinellu cyfres o fesurau iechyd a diogelwch a fydd yn cael eu rhoi mewn lle gan gynnwys sicrhau bod unrhyw un sy’n mynd i ffatrïoedd Ford yn gwisgo masg a gorchudd wyneb mewn amgylchiadau lle nad yw’n bosib ymbellhau’n gymdeithasol.

Fe fydd y cwmni hefyd yn cymryd tymheredd pawb sy’n mynd i’r ffatrïoedd gydag offer sganio ynghyd a hunanasesiad dyddiol o iechyd eu gweithwyr.

Mae safleoedd gwaith wedi cael eu hail-gynllunio i sicrhau eu bod yn gallu cadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol a bydd gweithwyr yn dychwelyd yn raddol i sicrhau nad oes gormod o bobl yn yr adeiladau ac yn gweithio ar y llinell gynhyrchu.

Aston Martin

Mae gweithwyr Aston Martin yn Sain Tathan wedi dechrau dychwelyd i’w gwaith yn raddol ac roedd hyd at 2,000 o weithwyr Jaguar Land Rover wedi mynd yn ôl i’r gwaith yn eu ffatri yn Solihull ar Fai 11. Roedd staff yn eu ffatri yn Wolverhampton wedi dechrau dychwelyd i’w gwaith wythnos ddwethaf.