Mae Syr Keir Starmer yn dweud bod “rhaid i bedair gwlad Prydain gydweithio” mewn “dull un genedl” er mwyn trechu’r coronafeirws.

Daw sylwadau arweinydd y Blaid Lafur ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynlluniau sy’n wahanol i Loegr wrth baratoi i lacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Tra bod neges Llywodraeth Geidwadol Prydain wedi symud i un o “fod yn wyliadwrus”, neges Llywodraeth Lafur Cymru o hyd yw i bobol “aros gartref”.

Ond mae hynny, yn ôl Syr Keir Starmer, yn atgyfnerthu’r neges fod “rhaid i’r pedair gwlad gydweithio lle bynnag y bo hynny’n bosibl”.

Fe fu’n siarad ar raglen Sunday Politics Wales heddiw (dydd Sul, Mai 17).

‘Siom’

Er eu bod nhw ar yr un ochr yn wleidyddol, mae Syr Keir Starmer yn dweud bod penderfyniad Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, i ddilyn ei drywydd ei hun ar gyfer Cymru’n destun “siom”.

“Dw i’n meddwl bod hyn wedi atgyfnerthu’r ddadl, er bod gennym ni ddatganoli, fod rhaid i bedair gwlad Prydain gydweithio,” meddai.

“Dyna wnaethon ni wrth fynd i mewn i’r gwarchae, a dw i wedi cael siom nad ydyn ni’n gwneud hynny wrth ddod allan o’r gwarchae.

“Mae gyda ni neges wahanol yng Nghymru, nawr, i weddill gwledydd Prydain. Mae gyda ni gyfeiriad polisi gwahanol.”

Ond mae’n dweud ar yr un pryd mai bai Boris Johnson yw’r diffyg undod.

“Dyna’r her wnes i ei rhoi i’r prif weinidog, sef fod mynd o’i chwmpas hi yn y ffordd wnaeth e, sef gwneud araith ddydd Sul a dyfeisio cynllun ddydd Llun yn hytrach nag i’r gwrthwyneb, wedi arwain at sefyllfa lle mae Cymru a’r Alban wedi dechrau ar neges wahanol… cadw at yr un neges ond polisïau gwahanol.

“Dw i’n gwybod fod Mark Drakeford yn awyddus iawn i ni gael dull pedair gwlad.”

Dyfodol y Deyrnas Unedig?

Dywed Syr Keir Starmer ei fod yn gobeithio y bydd undod y Deyrnas Unedig yn gryfach ar ddiwedd argyfwng y coronafeirws.

“Oherwydd dw i’n credu y bu synnwyr anhygoel o undod ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae hyd yn oed clapio ar nos Iau yn weithred o ryw fath o undod ac i bawb ohonom, y rhan fwyaf ohonom oedd heb fyw drwy’r Ail Ryfel Byd, dydyn ni ddim wedi profi’r math yma o undod lle mae pobol wedi dod ynghyd yn ystod argyfwng rydyn ni’n mynd drwyddo fe gyda’n gilydd.

“Dw i’n credu y bydd y math yma o undod yn bwysig iawn wrth fynd yn ein blaenau.”

Straen ar y berthynas?

Ond mae e hefyd yn dweud y gallai’r wythnosau a’r misoedd diwethaf o ddilyn eu trywydd eu hunain roi straen ar berthynas pedair gwlad Prydain â’i gilydd.

“Fe alla’i,” meddai.

“Ond gorau po gynta’ y dychwelwn ni at weithredu fel pedair gwlad gyda’n gilydd, oherwydd dw i ddim yn credu bod gwahanol ddulliau o weithredu yn y rhannau gwahanol o’r Deyrnas Unedig yn mynd i’n helpu ni allan o’r argyfwng yma.

“Dw i’n credu mai bai y prif weinidog yw hynny’n bennaf.”