Mae beiciwr modur mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn ardal Llanelli brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mai 16).

Cafodd y gyrrwr ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau yn dilyn y digwyddiad yn ymwneud â beic Aprilia 125 lliw gwyn yn Llwynhendy am oddeutu 1.30yp.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion neu ddeunydd dashcam o’r digwyddiad ar ffordd B4297 ger y Joiners Arms neu Heol Glynderwen.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.