Aamir Siddiqi
Yn Llys y Goron Caerdydd, clywodd rheithgor bod dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio myfyriwr wedi ei weld yn siopa gydag amlen yn llawn arian, oriau’n unig ar ôl y llofruddiaeth.

Cafodd Aamir Siddiqi, 17, ei drywanu i farwolaeth tu allan i gartref ei rieni, ar ôl i’r ddau ddyn a ymosododd arno fynd i’r tŷ anghywir.

Mae Ben Hope, 38, a Jason Richards, 37,  sy’n dod o Gaerdydd, yn gwadu llofruddio Aamir Siddiqi.

Clywodd y rheithgor bod Hope a Richards wedi cael tâl o £1,000 i ladd dyn o’r enw Mohammed Tanhai.

Mae’n debyg mai Mohammed Ali Ege oedd wedi gorchymyn  Hope a Richards i ladd Mohammed Tanhai am iddo fethu â thalu dyled o £50,000.

Clywodd y llys bod Hope a Richards wedi mynd i gartref Aamir Siddiqi yn Ffordd Ninian ar Ebrill 11 y llynedd yn lle tŷ Mohammed Tanhai a oedd yn y stryd y tu ôl.

Heddiw, roedd y rheithgor wedi gwylio tystiolaeth CCTV a oedd yn awgrymu bod Hope wedi prynu pâr o drwsus mewn siop yn Heol y Frenhines yng Nghaerdydd tua dwy awr ar ôl i Aamir Siddiqi gael ei drywanu.

Dywedodd rheolwr y siop, Andrew Webb, ei fod yn cofio Hope yn y siop y diwrnod hwnnw. Dywedodd ei fod wedi prynu sgidiau Nike, pâr o sanau a waled Nike, a’i fod wedi talu gydag arian o amlen wen a oedd, yn ôl pob tebyg, yn llawn o “bapurau £20 – tua £1,000 i gyd,” meddai.

“Nid yn aml y bydda’ i’n gweld rhywbeth felly. Mae’n anarferol iawn,” meddai Andrew Webb.

Roedd Andrew Webb yn cytuno fod derbynneb a gafodd ei ddarganfod yng nghartref Hope yn cyfateb â chofnodion y siop.

Gwelodd y llys hefyd dystiolaeth CCTV o Volvo XC90 oedd wedi ei ddwyn yn cael ei yrru o gwmpas canol Caerdydd yn y dyddiau cyn i Aamir Siddiqi gael ei drywanu.

Mae disgwyl i’r achos barhau yfory.