Mae Cymru am dderbyn £35m ychwanegol i fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Daw cyhoeddiad Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn sgil buddsoddiad ychwanegol mewn cartrefi gofal yn Lloegr.

Y bwriad yw cynyddu’r mesurau i reoli’r feirws, cynnal mwy o brofion a chynnig mwy o gefnogaeth glinigol.

Mae’n golygu bod Cymru bellach wedi derbyn dros £2.1bn yn sgil y feirws.

Mesurau eraill

Mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, wedi cyhoeddi cyfres o fesurau eraill fydd yn helpu pobol yng Nghymru.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cynllu cynnal swyddi lle gall busnesau bach a chanolig geisio am grant gwerth 80% o gyflogau gweithwyr hyd at £2,500 y mis, wedi’i ôl-ddyddio i Fawrth 1 ac fe fydd ar gael tan fis Hydref.
  • Rhyddhad TAW i gwmnïau hyd at ddiwedd mis Mehefin, sy’n golygu chwistrelliad o £30bn i’r economi.
  • £330bn o fenthyciadau i gefnogi busnesau.
  • Cynllun benthyciadau fydd yn cynnig £50,000 i fusnesau bach gyda sicrwydd 100% i fenthycwyr. Fydd dim llog am y flwyddyn gyntaf.
  • Bydd Cynllun Cymorth Incwm i weithwyr hunangyflogedig yn helpu gweithwyr llawrydd yng Nghymru i dderbyn hyd at £2,500 y mis mewn grantiau am o leiaf dri mis.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gyllid a roddi yn uniongyrchol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu Cymru drwy’r pandemig hwn, a ddarparwyd ar y cyd â phecyn o fesurau ledled y Deyrnas Unedig ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru’n goresgyn yr argyfwng hwn.

“Bydd y cyhoeddiad heddiw yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol tra’n mynd i’r afael â chamau nesaf y feirws dinistriol hwn.”