Dywed Leanne Wood, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros y Rhondda, ei bod hi wedi rhyfeddu fod cyn lleied o wisgoedd meddygol yng Nghymru pan gafodd yr achos cyntaf o’r coronafeirws ei gyhoeddi yng Nghymru.

Mewn ateb i gwestiwn gan Leanne Wood i’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, fe ddaeth i’r amlwg mai 31,697 o wisgoedd meddygol oedd yng Nghymru ar ddiwedd mis Chwefror.

Mae’r nifer yma lawer iawn yn llai na nifer yr eitemau hanfodol eraill oedd gan sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Ar yr un pryd, roedd yna 1,575,035 o warchodwyr llygaid, 4,901,870 o fasgiau wyneb, 33,800,150 o fenig ac 893,025 o beiriannau anadlu FFP3.

Dywed Leanne Wood fod hyn yn profi nad oedd Llywodraeth Cymru’n barod am y coronaferiws.

“Mae hyn yn annerbyniol ac yn haeddu cael ei graffu, hyd yn oed os nad yw’r Gweinidog Llafur yn hoffi hynny,” meddai.

“Swydd y Llywodraeth yw sicrhau fod yna ddigon o gyfarpar diogelu personol i holl aelodau staff i’w gwarchod ac atal y feirws rhag lledaenu.

“Yn yr achos yma, mae’r Llywodraeth Lafur wedi methu.”

Ymateb

Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi gwneud “ymdrechion enfawr” i sicrhau bod gan weithwyr rheng flaen gyfarpar diogelu personol.

“Dyw ein gweithwyr rheng flaen ddim yn meindio o ba bentwr stoc mae eu cyfarpar diogelu yn dod – yr oll sydd yn bwysig yw fod gan Gymru lefelau digonol o gyfarpar diogelu personol,” meddai llefarydd.

“Rydym wedi gwneud ymdrechion enfawr i geisio sicrhau cyflenwadau newydd o gyfarpar diogelu a datblygu cadwyni cyflenwi.

“Cyrhaeddodd y llwyth diweddaraf yng Nghaerdydd yr wythnos yma oedd y cynnwys 600,000 o wisgoedd meddygol.”