Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi £30,000 i Americanwr am sgwennu straeon byrion am bobl ar gyrion cymdeithas yn ninas Houston.

Enillodd Bryan Washington, awdur 27 oed o America, wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – sydd werth £30,000 – am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, LOT.

Fe gafodd yr enillydd ei gyhoeddi mewn seremoni rhithwir a gyflwynwyd gan yr actor Michael Sheen ar nos Iau (Mai 14), a hithau yn ddiwrnod dathlu Dylan Thomas.

“Straeon am bobol dduon hoyw”

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Bryan Washington: “Mae’n wych pryd bynnag y mae cynulleidfa’n gwerthfawrogi eich stori, ym mha bynnag ffordd, heb sôn am gael cydnabyddiaeth am eich gwaith ar lwyfan mor anferth.

“Ac mae’n fraint adrodd straeon am y cymunedau sy’n annwyl i mi, a’r cymunedau rwy’n byw yn eu mysg – cymunedau sydd ar y cyrion, cymunedau pobl dduon a chymunedau pobl dduon hoyw, yn benodol.”

Dechreuodd Bryan Washington ysgrifennu casgliad o straeon byrion o’r enw  LOT yn 2016 gyda’r bwriad o bortreadu pobol y cyrion yn ninas Houston.

Mae’r casgliad wedi cael ei frolio fel gwaith dirdynnol, ingol, dwys ac ysgytwol, sy’n cynnig cipolwg dwfn ar bobl Houston.

“Mae casgliad Bryan Washington o straeon byrion, LOT, yn gwneud yr hyn y mae unrhyw waith ffuglen fawr yn ei wneud, sef dod o hyd i ffordd o oleuo byd na fyddai’n bosib ei adnabod fel arall, a hynny mewn modd ffraeth a chain,” meddai’r Athro Dai Smith o Brifysgol Abertawe.

“Dyma lais go-iawn, unigryw, bythgofiadwy, hael a chynnes sy’n rhoi ymdeimlad o gymuned a phrofiad bywyd llawn i ni.”