Mae’n rhaid i Geidwadwyr Cymru “barchu datganoli” os ydyn nhw am ennill etholiad Senedd 2021.

Dyna mae un o’i swyddogion llawr gwlad wedi ei ddweud mewn darn barn diweddar i wefan Nation.Cymru.

Mae Charlie Evans yn aelod o Gymdeithas Geidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ac yn y darn mae’n ystyried sut all ei blaid ennill etholiad Senedd flwyddyn nesa’.

Yntau yw Dirprwy Gadeirydd ei gangen, ac mae’n canu clodydd datganoli gan ymbil ar ei blaid i rannu ei frwdfrydedd.

“Mae Ceidwadwyr yn ei gefnogi yn naturiol,” meddai, “ac unwaith y llaciwn afael Llafur ar bŵer bydd ein rhwystredigaeth â datganoli yng Nghymru yn diflannu.

“Mae arolygon barn yn dangos bod pobol Cymru yn gefnogol i ddatganoli hefyd.

“Felly os ydym eisiau profi llwyddiant yn y blychau pleidleisio’r flwyddyn nesa’, rhaid i ni barchu sefydliad Senedd Cymru yn yr un ffordd ac mae pobol Cymru yn ei pharchu.”

Mae arolwg barn a gafodd ei gynnal ym mis Ionawr yn dangos bod dros hanner Cymry yn hapus â sefyllfa wleidyddol Cymru fel y mae, neu am i’r Senedd gael rhagor o bwerau.

Newid agwedd at ddatganoli?

Mae cryn ddyfalu bod newid ar droed yn agwedd y Ceidwadwyr at ddatganoli yng Nghymru.

Roedd cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig ym mis Mawrth yn llawn ymosodiadau ar y sefydliad yn y Bae.

Ac mae peth dyfalu nad yw’r blaid am golli tir i bleidiau asgell dde sydd yn fwy sinigaidd o ddatganoli – gan gynnwys ‘Plaid Diddymu’r Cynulliad’ [sic] a Phlaid Brexit.

Yr wythnos hon mi alwodd Aelod Seneddol Ceidwadol, Daniel Kawczynski, am ddiddymu Senedd Cymru yn gyfan gwbl, er nad dyna bolisi swyddogol y blaid yng Nghymru nac yn Lloegr.

Datganoli a Brexit

Yng ngweddill ei ddarn mae Charlie Evans yn cydnabod bod “rhai yn bryderus ynghylch yr hyn maen nhw’n ei ystyried yn devo-scepticism o fewn y Blaid Geidwadol”.

Ond mae’n mynnu mai “rhwystredigaeth” yw hyn â’r ffaith bod Llafur wedi bod mewn grym ers degawdau.

Yn ddiweddarach yn y darn mae’n dweud ei fod yn cefnogi datganoli am yr un rhesymau ag y mae’n cefnogi Brexit – “er mwyn dod â phŵer yn agosach at y bobol”.

Mae hefyd yn dweud y dylai Gymru fod yn gartref “naturiol” i’r Torïaid, ac mae’n dweud nad “tiriogaeth” Plaid Cymru yw’r wlad hon.