Nid yw Arweinydd Cyngor Gwynedd yn credu ei bod hi’n werth mynd i’r drafferth o anfon pobol adref, os ydyn nhw wedi bod yn hunanynysu yn eu hail gartrefi yn y gogledd.

Mewn cyfweliad fideo arbennig gyda bro360 roedd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn ateb cwestiynau pobol Gwynedd am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Eglurodd Dyfrig Siencyn fod yna deimladau cryf ymysg cymunedau yng Ngwynedd am bobol yn cyrraedd eu hail gartrefi.

Ond bellach, mae o’r farn nad gorfodi pobol sydd wedi bod yn hunanynysu yn eu hail gartrefi ers wythnosau i fynd am adref, yw’r peth gorau i’w wneud.

Mae’n anghyfreithlon i bobol deithio i’w hail gartref, ond mae Arweinydd Cyngor Gwynedd yn cydnabod “unwaith maen nhw trwy’r drws, gallwn wneud dim am y peth.

“Dw i’n ymwybodol iawn o bobol sydd yn byw yn eu hail gartrefi ers y cychwyn cyntaf. Erbyn hyn dw i ddim yn gweld hi’n briodol i gael pwerau i dyrchu’r bobol yma allan o’u tai.

“O edrych ar y risgiau sydd yna, dw i ddim yn meddwl ei fod o werth y drafferth honno.

“Wrth edrych i’r dyfodol, dw i’n credu bod angen edrych ar y ddeddfwriaeth sydd gennym ni, i sicrhau nad ydy hyn yn digwydd eto, a’n bod ni’n gallu eu gyrru nhw nôl.”

Pryder na fydd modd i heddlu’r gogledd ymdopi

Er bod Arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud fod Heddlu Gogledd Cymru wedi “ymateb yn arbennig o dda” i’r coronafeirws, mae’n pryderu na fyddan nhw yn gallu dygymod â’r pwysau ychwanegol os bydd cynnydd yn nifer y bobol sy’n croesi’r ffin o Loegr.

Tra bo’r cloi mawr yn parhau yng Nghymru, mae’r rheolau wedi newid yn Lloegr ac mae gan Saeson yr hawl i grwydro ymhell – yn eu gwlad eu hunain.

“Mae yna bryderon dros yr wythnosau nesaf y bydd negeseuon amwys gan San Steffan yn drysu’r sefyllfa,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Dw i’n credu bod Heddlu Gogledd Cymru wedi ymateb yn arbennig o dda.

“Prin iawn yw’r achosion rydem ni wedi’u gweld hyd yn hyn lle mae pobol yn teithio yn anghyfreithlon.

“Ond os daw nifer sylweddol yma dros yr wythnosau nesaf, fydd yr heddlu methu dygymod.”

FIDEO – CYFWELIAD LLAWN

Cyfweliad llawn Lleu Bleddyn gyda Dyfrig Siencyn, blae mae Arweinydd Cyngor Gwynedd yn trafod addysg a dyfodol plant y sir, y ffaith fod y cyngor wedi gorfod rhoi’r gorau i rai o’i dyletswyddau, a’r sefyllfa gydag ail gartrefi:

https://www.facebook.com/watch/?v=661756221341045

 

Dyfrig Siencyn yn ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn ateb eich cwestiynau chi am ymateb y sir i argyfwng y coronafeirws.

Posted by Caernarfon360 on Thursday, 14 May 2020