Mae Aelod Seneddol Ceidwadol sy’n cynrychioli etholaeth yn swydd Gaerhirfryn wedi bod yn byw ym Môn yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws, meddai Aelod Seneddol yr Ynys.

Yn ddiweddar, mae sibrydion wedi bod yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â pham mae Jake Berry AS wedi bod ar Ynys Môn.

Dywedodd Virginia Crosbie AS nad oedd Jake Berry, Aelod Seneddol Rossendale a Darwen, wedi gadael yr Ynys ers cyn y cloi.

Mewn neges ar ei thudalen Facebook, dywedodd:

“Mae Mr a Mrs Berry wedi bod yn byw yma yn yr Ynys ers mis Chwefror – dyma eu cartref. Mae ganddynt deulu ifanc iawn – gyda thri o blant tair oed ac iau.

“Yn anffodus mae Mrs Berry wedi bod yn sâl yn Ysbyty Bangor [sic] am fis – felly mae’n ddealladwy fod y teulu wedi cadw proffil isel iawn.

“Maent wedi bod yma ers cyn cyhoeddi’r cyfyngiadau. Eu cartref nhw yw hwn – ac maent wedi fy sicrhau eu bod wedi dilyn holl ganllawiau Llywodraeth Cymru. Heblaw am ymweld ag Ysbyty Bangor [sic] nid yw Mr Berry wedi gadael yr Ynys ers cyn cloi, yn ôl ym mis Mawrth.

“Hoffwn ddiolch i bawb yn y gymuned sydd wedi eu cefnogi yn ystod cyfnod anodd iawn.”

Esboniad i etholwyr Rossendale a Darwen

Mae llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol wedi egluro wrth wefan newyddion yn etholaeth Jake Berry pam ei fod yn byw 130 milltir i ffwrdd yn ystod y cloi. Wrth siarad â LancsLive, dywedodd y llefarydd fod Mr Berry wedi bod yn ei eiddo ym Môn ar ôl ymweld â theulu cyn i’r clo gael ei gyhoeddi.

Yn ogystal, dywedodd llefarydd ar ran Jake Berry AS wrth LancsLive: “Yn ystod [yr] ymweliad â Chymru dechreuodd aelod o deulu Mr Berry ddangos symptomau’r coronafeirws, a hynny cyn cyfyngiadau’r Llywodraeth”.

“Roeddent yn dilyn cyngor y Gwasanaeth Iechyd ac yn hunanynysu wrth i’r cyfyngiadau ddod i rym.

“Maen nhw wedi aros yng Nghymru yn ystod y cyfnod cloi ac wedi parhau i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth.”

Prif breswylfa?

Fodd bynnag, mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Ynys Mon yn Senedd Cymru, wedi mynnu esboniad pellach:

“Rwy’ wedi dod yn ymwybodol o drafodaeth eang yn fy etholaeth am AS Ceidwadol dros Rossendale a Darwen. Rwy’ wedi clywed bod Mr Berry ar hyn o bryd yn aros yma yn Ynys Môn ac efallai ei fod wedi bod yma trwy gydol y cyfnod y mae’r cyfyngiadau wedi bod mewn grym,” meddai.

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i adlewyrchu’r ohebiaeth a gefais ar y mater hwn. Efallai fod rheswm da pam fod Mr Berry wedi bod yn aros yn Ynys Môn pan ddaeth y cyfyngiadau i rym am y tro cyntaf. Ond byddai’n rhesymol disgwyl i Mr Berry ddarparu esboniad o’i weithgareddau ac eglurder ynghylch ai’r eiddo yn Ynys Môn yw ei brif breswylfa neu ei ail gartref.”