Mae’r Heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau wedi i dri dyn geisio’i orfodi i roi arian iddyn nhw yn Sir y Fflint.

Aeth tri dyn yn gwisgo balaclafas i mewn i dŷ yn North Street, Sandycroft am tua 11.20pm ddydd Sadwrn, 29 Hydref.

Fe wnaeth y tri geisio gorfodi’r dyn yn y tŷ i roi arian iddyn nhw gan achosi anafiadau i’w goes. Mae’r Heddlu yn credu mai cyllell ddefnyddiodd y dynion i wneud hyn.

Fe wnaeth y dynion adael y tŷ yn waglaw a chafodd y dyn ei drin am fân anafiadau yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y troseddwyr neu unrhyw gerbydau a ddefnyddiwyd ganddynt yn yr ardal ar y nos Sadwrn i gysylltu â DC 2272 Shaun Parry yn CID Yr Wyddgrug ar 101. Neu, mae’n bosibl ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.