Mae un o ganeuon mwyaf poblogaidd Simon a Garfunkel a berfformiwyd gan staff Gwasanaeth Iechyd Cymru wedi ennill cymeradwyaeth gan y cyfansoddwr ei hun gan wneud i’r fideo fynd yn ‘feiral’.

Dywedodd y canwr a’r cyfansoddwr, Paul Simon, fod fersiwn y perfformwyr o ‘Bridge Over Troubled Water’ yn “arbennig”.

Ffilmiwyd meddygon, gweithwyr adeiladu a staff y Cyngor ar gyfer y perfformiad yn yr ysbyty dros dro a adeiladwyd yn Theatr a Chanolfan Gynadledda Venue Cymru, Llandudno.

Dywedodd Paul Simon yn ei neges wrth rannu’r fideo ar ei gyfri facebook fod staff  Ysbyty Enfys yn “ddewr “.

Mae’r fideo hefyd yn cynnwys negeseuon gan y darlledwr a pherfformiwr Jools Holland, a’r actorion Cymreig yn Hollywood, Mathew Rhys a Rhys Ifans.

Here is an extraordinary performance of ‘Bridge Over Troubled Water’ by the brave men and women from NHS in honor of the Llandudno's Venue Cymru, which has been turned into a temporary coronavirus hospital. During this process, the facility has been renamed to Ysbyty Enfys, which is Welsh for Rainbow Hospital, as a symbol for hope.

Posted by Paul Simon on Tuesday, 12 May 2020

 

Wedi ‘gwirioni’

Mae’r perfformiad yn cynnwys nyrsys a meddygon, a’r rhai a helpodd i adeiladu’r ysbyty dros dro i drin pobl sy’n dioddef o coronafeirws.

Hefyd, mae Côr staff Cyngor Conwy a sêr o fyd pop Cymraeg yn ymuno â nhw er mwyn talu teyrnged i’r Gwasanaeth Iechyd.

“Manon Llwyd gysylltodd hefo fi i ofyn os oedd gen i ddiddordeb mewn cymryd rhan” meddai Elin Mai Williams, un o’r nyrsys sydd yn canu unawd yn fideo.

“Wrth gwrs roedd gen i ddiddordeb mewn cymryd rhan!

“Felly mi yrrodd hi damaid i mi ei ganu a’i yrru yn ôl. Fel ‘na ddigwyddodd o.”

“O ddeall” meddai Elin, sydd yn byw yn Llanrug ger Caernarfon, “doedd y fideo ddim i fod i gael ei rhyddhau tan fory (dydd Iau 14 Mai), ond fe wnaeth Paul Simon ei rannu a gwneud y fideo yn feiral!

“Mi godais i bora ’ma a gweld Jules Holland a meddwl ‘na, ddim ni sydd ar y fideo yma’- ond ni oedd o!

“Dwi wedi gwirioni. Dwi’n ffan mawr o Simon and Garfunkel.

“Braint a phleser oedd cael canu cân mor lyfli.”

Mae’r fideo wedi cael ei wylio fwy na 80,000 o weithiau a’i rannu dros fil o weithiau ers i Paul Simon ei ail bostio ar ei dudalen Facebook ei hun y bore ’ma.