Bu’n rhaid achub plentyn ar ôl iddo fynd yn sownd ar lethr serth ym Meirionnydd.

Cafodd tîm chwilio ac achub Aberdyfi eu galw tua 10 nos Fawrth, Mai 12, i helpu bachgen yn ei arddegau oedd wedi rhedeg i ffwrdd oddi wrth ei ofalwyr yn Nolgellau.

Dilynwyd y llanc gan ei ofalwyr ond parhaodd i redeg oddi wrthyn nhw cyn cyrraedd ardal yn llawn drysni coed.

Wrth iddi nosi, stopiodd y bachgen a setlo ar y llethr.

Roedd ei ofalwyr rhyw 20 a 30 troedfedd i ffwrdd, ond doedden nhw ddim yn gallu ei gyrraedd oherwydd y tir garw. Yna dywedodd y bachgen ei fod wedi brifo’i goes.

Galwyd ar yr achubwyr i asesu’r sefyllfa ac fe lwyddon nhw i arwain y bachgen oddi yno’n ddiogel erbyn 1.15 y bore.

Cymhleth

Dywedodd Graham O’Hanlon, a helpodd i gydlynu’r ymateb, wrth WalesOnline:

“Er mwyn helpu i amddiffyn gwirfoddolwyr y tîm, gwylwyr a’r rhai wedi eu hanafu yn yr argyfwng Covid-19 presennol, mae nifer o brotocolau newydd bellach yn dylanwadu ar y ffordd y mae’n rhaid i’r tîm ymateb i alwadau.

“Yn gyntaf, rydym yn ceisio lleihau’r peryglon drwy ddefnyddio’r nifer lleiaf o wirfoddolwyr sydd eu hangen i ddatrys pob digwyddiad.

“Mae ymbellhau cymdeithasol yn anodd ei gynnal wrth roi sylw i rywun wedi ei anafu neu gario ar gludwr, felly mae angen i wirfoddolwyr hefyd fod â PPE sy’n addas ar gyfer gweithio’n agos at eraill, ac unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau mae angen glanhau’r holl gyfarpar a dillad.

“Mae’n rhaid i broses o fonitro symptomau yr un sydd wedi ei anafu yn ogystal a’r gwylwyr a’r gwirfoddolwyr tîm gael ei gynnal wedyn.

Mae pob gweithred wedi dod yn dipyn yn fwy cymhleth.”