Mae’r coronafeirws yn debygol o gael effaith sylweddol ar safle cwmni ceir Aston Martin yng Nghymru.

Mae’r gwaith o gynhyrchu cyrff ceir SUV moethus wedi dechrau ar y safle yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg ers dydd Llun (Mai 11).

Ond dydy’r cwmni ddim am dderbyn rhagor o archebion am y tro, gan ganolbwyntio’n unig ar yr archebion ddaeth i law eisoes.

Mae’r rhan fwyaf o staff y cwmni ar gennad, wrth i Lywodraeth Prydain ymrwymo i dalu 80% o’u cyflogau fel rhan o becyn cymorth i fusnesau.

Pryderon o’r newydd

Bu’r cwmni’n wynebu trafferthion ers tro, ac mae eu cyfrannau i lawr 93% o’i gymharu â Hydref 2018.

Yn ôl y dadansoddwr David Madden, fe gyhoeddodd Aston Martin rybuddion am eu helw fis Gorffennaf y llynedd ac unwaith eto ym mis Ionawr.

Fe wnaeth nifer y ceir gafodd eu gwerthu gan Aston Martin haneru, bron iawn, yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn.

Cafodd 578 o geir eu gwerthu yn ystod y cyfnod hwn, i lawr o 1,057 yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Roedd gan y cwmni golledion o £118.9m ar ôl treth, i fyny o £17.3m y flwyddyn gynt, a hynny ar refeniw o £78.6m, oedd i lawr 60%.

Cafodd holl safleoedd gweithgynhyrchu’r cwmni yng ngwledydd Prydain eu cau ar Fawrth 25, ac fe wnaeth 93% o gyflenwyr gau eu drysau yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn.

Mae gwerthiant y cwmni wedi gostwng 86% yn Tsieina, gyda gostyngiad o 30% yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Fe fu gostyngiad o 57% yn yr Americas, ond dim ond 3% yng ngwledydd Prydain.

Dadansoddiad

“Mae’n werth nodi bod y gwneuthurwr ceir wedi cael problemau cyn yr argyfwng iechyd, a dyna pam fod pris cyfrannau Aston Martin wedi’u bwrw mor galed yng nghanol gwerthiant yn ymwneud â Covid-19,” meddai.

Er y rhybuddion, mae’r cwmni’n parhau i deimlo’n bositif am y dyfodol.

“Er bod cryn ansicrwydd o hyd ynghylch hyd y pandemig a siâp yr adferiad economaidd, rydym yn parhau i ganolbwyntio ac wedi cyffroi ynghylch ein cynlluniau,” meddai Dr Andy Palmer, cadeirydd a phrif weithredwr Aston Martin.