Mae Plaid Cymru’n pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n “gyflym” wrth gyflwyno eu cynllun profi ac olrhain ar gyfer y coronafeirws heddiw.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, fe fydd cyflwyno’r fath gynllun yn “allweddol” er mwyn gallu llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru.

Mae disgwyl i gynllun y llywodraeth gael ei gyhoeddi heddiw, ac mae Plaid Cymru am weld nifer y profion sy’n cael eu cynnal yn dyblu yn y tymor byr, a “chynllun clir” er mwyn cyflymu’r broses.

Hyd yn hyn, dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi bwrw eu targed o gynnal 9,000 o brofion erbyn canol mis Mai – dim ond 1,193 oedd wedi’u cynnal erbyn ddoe (dydd Mawrth, Mai 12) er mai 5,330 yw’r capasiti dyddiol.

Mae Rhun ap Iorwerth am weld “ansawdd a nifer” wrth gynnal profion, gan gynnwys defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael yn rhyngwladol i sicrhau system mor effeithlon â phosib.

Ond mae hefyd am weld cydweithio ag awdurdodau lleol ac arbenigwyr ar lawr gwlad, gan dynnu sylw at y datblygiadau diweddaraf yng Ngheredigion.

‘Hen bryd’

“Mae’n hen bryd fod [cynllun y llywodraeth] yn cael ei gyflwyno, ac edrychwn ymlaen at weld nid yn unig beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru, ond sut fyddan nhw’n cael eu gweithredu’n gyflym,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw ers tro am gynllun profi ac olrhain fel blaenoriaeth.

“Byddwn ni’n edrych am sawl elfen – nid dim ond cynnydd sylweddol mewn capasiti profi, a’i ddyblu o leiaf yn y tymor byr, ond cynlluniau clir hefyd am gynnal profion ac olrhain yn gyflym iawn.

“Bydd cyflymdra’n allweddol wrth ynysu ymlediad yr afiechyd.

“Rhaid bod  gan Lywodraeth Cymru ddealltwriaeth glir hefyd o sut i weithredu technoleg yn y broses olrhain – mae angen iddyn nhw fod ar flaen y gad ac yn ymwybodol o ddatblygiadau rhyngwladol megis y rhai sydd ar waith gan Google ac Apple, yn ogystal â gweld sut allai’r ap ar draws y Deyrnas Unedig fod o ddefnydd.

“Ond rhaid i’r gwir ffocws fod ar y systemau yn eu lle ar lawr gwlad yma yng Nghymru, gan gydweithio ag awdurdodau lleol ac eraill i adeiladu systemau gwydn, gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd lleol, fel yr un sy’n cael ei ddatblygu yng Ngheredigion, er enghraifft.

“Ar ôl methu â bwrw targedau profi, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau arnyn nhw eu hunain i gael hyn yn iawn.

“Allwn ni ddim hyd yn oed dechrau llacio’r cyfyngiadau go iawn yng Nghymru heb gynlluniau profi, olrhain ac ynysu y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw.”