Fydd pobol yng Nghymru ddim yn cael eu gorfodi i wisgo mygydau wyneb er mwyn mynd allan, yn ôl Vaughan Gething.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, “mater o ddewis” fydd eu gwisgo nhw neu beidio, yn wahanol i’r cyngor yng ngwledydd eraill Prydain.

Daw ei sylwadau ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddweud bod cyfanswm o 1,132 o bobol wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws yng Nghymru – cynnydd dyddiol o 16.

Mae 105 yn rhagor wedi profi’n bositif, sy’n golygu cyfanswm o 11,573.

Yn ôl Vaughan Gething, dydy Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, ddim yn argymell y dylai pawb wisgo mygydau dros eu hwynebau.

Fe ddywedodd yntau’n ddiweddarach fod yna straen ar wasanaethau yn sgil prinder cyfarpar diogelu ar draws y byd, a bod yna amheuon fod digon i bawb ar y rheng flaen pe bai’r cyhoedd yn eu gwisgo nhw hefyd.

Ond mae’n argymell gorchuddio’r wyneb â rhywbeth arall pe bai modd, er mwyn atal hylifau rhag lledaenu wrth beswch a thisian, yn ogystal ag atal ymddygiad peryglus gan rai.

‘Dewis y cyhoedd’

“Fel Prif Swyddog Meddygol Cymru, dw i ddim yn argymell fod pawb yn gwisgo gorchudd wyneb nad yw’n glinigol yng Nghymru – dw i ddim yn argymell eu bod nhw’n orfodol,” meddai Dr Frank Atherton.

“Fodd bynnag, dw i’n cefnogi hawl y cyhoedd i ddewis eu gwisgo nhw.

“Ein cyngor o hyd yw i aros gartref, gwarchod y Gwasanaeth Iechyd ac achub bywydau.

“Os ydych chi’n gadael eich cartref i fynd i weithio, i siopa neu i wneud ymarfer corff, dylech chi gymryd pob mesur posib i aros yn ddiogel a gwarchod eich hun, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, golchi’ch dwylo’n rheolaidd a pheidio â chyffwrdd â’ch wynebau.”

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi ategu ei sylwadau mai dewis personol fydd gwisgo mygydau wyneb.

Y cyngor yng ngwledydd eraill Prydain

Yn Lloegr, mae Llywodraeth Prydain yn dweud y dylai pobol wisgo mygydau mewn llefydd cyfyng lle nad yw’n bosib cadw pellter cymdeithasol, a lle byddwch chi’n dod ar draws pobol nad ydych chi fel arfer yn eu cyfarfod.

Yn yr Alban, mae pobol yn cael eu cynghori i wisgo sgarffiau, a bod “rhywfaint o fudd” mewn gwisgo gorchudd dros y wyneb wrth fynd allan neu mewn llefydd cyfyng, gan gynnwys mewn siopau neu wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae trigolion Gogledd Iwerddon yn cael eu cynghori i ddefnyddio gorchudd wyneb “am gyfnodau byr mewn llefydd cyfyng lle nad yw’n bosib cadw pellter cymdeithasol”.